ATODLEN 2Ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr

8

Pan ddaw lle’n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i’r corff priodol gymryd y camau hynny sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob person y mae’n hysbys i’r corff priodol ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—

a

yn cael gwybod am y lle gwag a’i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;

b

yn cael gwybod bod gan y person hwnnw hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac

c

yn cael cyfle i wneud hynny.