ATODLEN 10Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan yn nhrafodion y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau

Swydd llywodraethwr, cadeirydd, is-gadeirydd neu glerc2

1

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal ac un o’r canlynol yn fater i’w ystyried—

a

penodiad, ailbenodiad, ataliad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel aelod o’r corff llywodraethu neu bwyllgor;

b

penodiad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel clerc, neu gadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;

c

os yw’r person hwnnw yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 5 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.

2

Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid trin buddiannau’r person perthnasol at ddibenion rheoliad 75(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau’r corff llywodraethu.