xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9PWYLLGORAU CYRFF LLYWODRAETHU

Cymhwyso’r Rhan hon

65.  Nid yw’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â phanelau dethol penaethiaid a dirprwy benaethiaid a sefydlwyd o dan reoliadau 10 neu 24 o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

Sefydlu pwyllgorau y corff llywodraethu

66.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgorau’r corff llywodraethu yn ddarostyngedig i reoliadau 67, 68 a 69.

(2Rhaid i’r corff llywodraethu benderfynu ar gyfansoddiad, aelodaeth a chylch gwaith unrhyw bwyllgor y penderfyna ei sefydlu, a’u hadolygu’n flynyddol.

(3Rhaid i’r corff llywodraethu benodi cadeirydd yn flynyddol ar bob pwyllgor neu raid i’r pwyllgor ei ethol, yn ôl penderfyniad y corff llywodraethu.

(4Rhaid i bwyllgor ethol aelod o’r pwyllgor hwnnw i weithredu fel cadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd a benodwyd o dan baragraff (3).

(5Ni chaiff unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, nac un o ddisgyblion cofrestredig y ffederasiwn neu ysgol ffederal, weithredu fel cadeirydd pwyllgor.

(6Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo cadeirydd unrhyw bwyllgor ar unrhyw adeg.

(7Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys disgybl-lywodraethwyr cyswllt a phersonau nad ydynt yn llywodraethwyr, a mater i’w benderfynu gan y corff llywodraethu yw i ba raddau y bydd gan y cyfryw aelodau hawl i bleidleisio.

(8Rhaid i fwyafrif yr aelodau ar unrhyw bwyllgor fod yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo

67.—(1Rhaid i swyddogaethau canlynol corff llywodraethu ffederasiwn gael eu dirprwyo i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a diswyddo staff—

(a)pan fo ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol, y penderfyniad cychwynnol o dan reoliad 17(1) o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8), y dylai unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal beidio â gweithio yno;

(b)pan fo ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y penderfyniad cychwynnol o dan reoliad 29(1) o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8) y dylai person a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal drefnu terfynu contract cyflogaeth y person hwnnw â’r corff llywodraethu neu na ddylai drefnu adnewyddu contract y person hwnnw (ac eithrio pan fo’r diswyddo yn unol â chyfarwyddyd yr awdurdod lleol o dan baragraff 7 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2002); a

(c)gwrando ar sylwadau mewn perthynas â phenderfyniad y mae’n rhaid ei ddirprwyo o dan y paragraff hwn.

(2Rhaid dirprwyo gwrandawiad unrhyw apêl mewn cysylltiad â phenderfyniad y mae’n rhaid ei ddirprwyo o dan baragraff (1) i bwyllgor, a elwir yn bwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(3Rhaid i’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff gynnwys o leiaf dri llywodraethwr, ond pan wneir honiadau yn erbyn aelod o’r staff sy’n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i’r pwyllgor gynnwys o leiaf ddau lywodraethwr a pherson annibynnol nad yw’n llywodraethwr.

(4Rhaid i’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo gynnwys o leiaf gynifer o lywodraethwyr â’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl a phan wneir honiadau yn erbyn aelod o’r staff sy’n ymwneud â materion amddiffyn plant, rhaid i’r pwyllgor gynnwys person annibynnol nad oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad y pwyllgor disgyblu a diswyddo staff.

(5At ddibenion paragraffau (3) a (4), mae person i’w ystyried yn annibynnol yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)pan nad yw’r person yn un o lywodraethwyr y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)pan nad yw’r person yn rhiant disgybl cyfredol neu flaenorol yn yr ysgol ffederal;

(c)pan nad yw’r person yn aelod cyfredol neu flaenorol o’r staff yn y ffederasiwn neu’r ysgol ffederal sydd dan sylw;

(d)pan nad yw’r person yn gyflogedig ar y pryd gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol ffederal sydd dan sylw.

(6Mae’r cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff a’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgorau yr un nifer ag isafswm y gofynion ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgorau hynny a bennir yn y rheoliad hwn.

(7Pan fo’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo yn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor disgyblu a diswyddo staff, ni chaiff unrhyw aelod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff y mae ei benderfyniad yn destun apêl gymryd rhan yn nhrafodion y pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(8Ni chaiff pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt fod yn aelod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff nac o’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo.

(9Ni fydd gan unrhyw aelod o’r pwyllgor disgyblu a diswyddo staff na’r pwyllgor apelau disgyblu a diswyddo nad yw’n llywodraethwr hawl i bleidleisio yn unrhyw drafodion y pwyllgor dan sylw, ac eithrio’r aelod annibynnol yn y naill bwyllgor neu’r llall, a benodwyd yn unol â pharagraff (3) neu (4).

Y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion

68.—(1Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion, i gyflawni’r swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion)(1).

(2Rhaid i’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion gynnwys naill ai dri neu bump o lywodraethwyr, ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt.

(3Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater gerbron y pwyllgor yw tri aelod o’r pwyllgor.

(4Caiff cadeirydd y pwyllgor disgyblu a gwahardd disgyblion arfer unrhyw swyddogaeth a roddwyd i’r corff llywodraethu gan neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52(3) a (4) o Ddeddf 2002 (gwahardd disgyblion) mewn achos—

(a)pan fo disgybl wedi ei wahardd am gyfnod penodol mewn amgylchiadau lle y byddai’r disgybl hwnnw, o ganlyniad i’r gwaharddiad, yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus; a

(b)pan fo’n ymddangos i’r cadeirydd na fyddai’n ymarferol cynnal cyfarfod â chworwm o’r pwyllgor at unrhyw ddiben y cyfeirir ato mewn rheoliadau o’r fath cyn y deuai’r amser i’r disgybl sefyll yr arholiad hwnnw.

Y pwyllgor derbyniadau

69.—(1Os corff llywodraethu ffederasiwn yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol ffederal, rhaid iddo sefydlu pwyllgor, a elwir yn bwyllgor derbyniadau, i arfer ei bwerau i benderfynu a ddylid derbyn unrhyw blentyn i’r ysgol ffederal.

(2Rhaid i bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)pennaeth neu bennaeth dros dro’r ffederasiwn; neu

(b)(os nad oes pennaeth na phennaeth dros dro i’r ffederasiwn) pennaeth neu bennaeth dros dro’r ysgol ffederal; ac

(c)o leiaf ddau lywodraethwr arall (ac eithrio disgybl-lywodraethwyr cyswllt).

(3Mae’r cworwm ar gyfer y pwyllgor derbyniadau ac unrhyw bleidlais ar unrhyw fater yn y pwyllgor yr un nifer â’r isafswm sy’n ofynnol ar gyfer cyfansoddiad y pwyllgor a bennir yn y rheoliad hwn.

Clercod pwyllgorau

70.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu benodi clerc i bob pwyllgor a sefydlir yn unol â rheoliadau 67 i 69 a chaiff benodi clerc i unrhyw bwyllgor arall a sefydlir ganddo.

(2Ni chaniateir penodi pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal na disgybl-lywodraethwr cyswllt yn glerc o dan baragraff (1).

(3Er gwaethaf paragraff (1) caiff y pwyllgor, os metha’r clerc â bod yn bresennol mewn un o’u cyfarfodydd, benodi unrhyw un o’u plith (ond nid pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal) i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

(4Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw glerc a benodir i unrhyw bwyllgor o’i eiddo ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i glerc a benodir i bwyllgor y corff llywodraethu—

(a)cynnull cyfarfodydd y pwyllgor;

(b)bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor a sicrhau y llunnir cofnodion o’r trafodion; ac

(c)cyflawni pa swyddogaethau eraill bynnag mewn cysylltiad â’r pwyllgor hwnnw a benderfynir gan y corff llywodraethu o bryd i’w gilydd.

Hawl personau i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd pwyllgorau

71.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) ac Atodlen 10 i’r Rheoliadau hyn bydd gan y canlynol yr hawl i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o bwyllgor—

(a)unrhyw aelod o’r pwyllgor, ar yr amod nad yw’r person hwnnw yn llywodraethwr a ataliwyd yn unol â rheoliad 61;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r pwyllgor ai peidio);

(c)clerc y pwyllgor; ac

(d)pa bersonau eraill bynnag y bo’r corff llywodraethu neu’r pwyllgor yn penderfynu yn eu cylch.

(2Caiff pwyllgor wahardd aelod nad yw’n llywodraethwr o unrhyw ran o’i gyfarfod y mae gan y person hwnnw hawl fel arall i fod yn bresennol ynddo, pan fo’r busnes o dan ystyriaeth yn ymwneud ag aelod unigol o’r staff neu â disgybl.

(3Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas â’r pwyllgorau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 67 ac 68 nac mewn perthynas ag unrhyw bwyllgor neu banel dethol sy’n arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

Cyfarfodydd pwyllgorau

72.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnull gan glerc y pwyllgor hwnnw ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth honno, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)y corff llywodraethu;

(b)cadeirydd y pwyllgor hwnnw, i’r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o’r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(2Oni phenodwyd clerc, rhaid i’r cadeirydd gynnull cyfarfodydd pwyllgorau ac mae’n rhaid iddo, wrth arfer y swyddogaeth hon, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y corff llywodraethu.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir yn unol â pharagraffau (1) neu (2), rhaid i’r clerc roi, o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw, i bob aelod o’r pwyllgor ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn aelod o’r pwyllgor ai peidio)—

(a)hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod;

(b)copi o agenda’r cyfarfod; ac

(c)unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod;

ond bydd yn ddigon, pan fo cadeirydd y pwyllgor yn penderfynu hynny ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, yr agenda, a’r adroddiadau neu’r papurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd neu benderfyniad y person hwnnw (yn ôl y digwydd).

(4Nid annilysir trafodion pwyllgor gan—

(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau; na

(b)unrhyw ddiffyg wrth benodi unrhyw aelod o’r pwyllgor.

(5Yn ddarostyngedig i reoliadau 67(6), 68(3) a 69(4), y cworwm ar gyfer cyfarfod o bwyllgor ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y pwyllgor heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (8), ni chaniateir cymryd pleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o bwyllgor oni fo mwyafrif aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol yn llywodraethwyr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

(7Rhaid i bob cwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o bwyllgor gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau aelodau’r pwyllgor sy’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.

(8Pan fo’r pleidleisiau wedi eu rhannu’n gyfartal bydd gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod ail bleidlais neu bleidlais fwrw, ar yr amod bod y cyfryw berson yn llywodraethwr, heb gynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt.

Cofnodion cyfarfodydd pwyllgorau

73.—(1Rhaid llunio cofnodion o’r trafodion mewn cyfarfod o bwyllgor, gan glerc y pwyllgor neu gan y person sy’n gweithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod; a rhaid eu llofnodi (yn ddarostyngedig i’w cymeradwyo gan y pwyllgor) gan gadeirydd y cyfarfod nesaf o’r pwyllgor.

(2Rhaid i unrhyw bwyllgor corff llywodraethu ddarparu copi i’w awdurdod lleol o gofnodion drafft neu gofnodion llofnodedig unrhyw un o’i gyfarfodydd, os gwneir cais am gopi gan yr awdurdod lleol hwnnw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau

74.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r pwyllgor, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi copïau o’r canlynol ar gael i’w harchwilio gan unrhyw un â diddordeb, ym mhob un o’r ysgolion ffederal sy’n ffurfio rhan o’r ffederasiwn—

(a)yr agenda ar gyfer pob cyfarfod o’r pwyllgor;

(b)cofnodion llofnodedig pob cyfarfod o’r fath; ac

(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o’r fath.

(2Caiff y pwyllgor dynnu allan o unrhyw eitem y mae’n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd yn ymwneud ag—

(a)person a enwir sy’n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;

(b)disgybl a enwir, neu ymgeisydd am le, yn y ffederasiwn;

(c)unrhyw fater arall y bodlonir y pwyllgor y dylai, oherwydd ei natur, barhau yn gyfrinachol.

(1)

Gweler y Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003, (O.S. 2003/3227 (Cy.308)) fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2004 (O.S. 2004/1805 (Cy.193)).