xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8CYFARFODYDD A THRAFODION CYRFF LLYWODRAETHU

Hawl personau i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu

55.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 56 a 75 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 10 i’r Rheoliadau hyn mae hawl gan y personau canlynol i fod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y corff llywodraethu—

(a)yn ddarostyngedig i reoliad 61, llywodraethwr;

(b)clerc y corff llywodraethu;

(c)y pennaeth; a

(d)personau eraill fel a benderfynir gan y corff llywodraethu.

(2Mae’r cyfeiriad at y pennaeth ym mharagraff (1)(c) yn cynnwys—

(a)pennaeth y ffederasiwn (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); neu

(b)(os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth pob un o’r ysgolion ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio).

Allgáu disgybl-lywodraethwyr cyswllt o gyfarfodydd

56.  Rhaid i’r corff llywodraethu allgáu disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan y corff llywodraethu sy’n ymwneud ag—

(a)penodiadau staff, tâl y staff, disgyblu staff, rheoli perfformiad y staff, achwyniadau a gyflwynir gan y staff neu ddiswyddo staff;

(b)derbyn disgyblion;

(c)disgyblu disgyblion unigol;

(d)ethol, penodi a diswyddo llywodraethwyr;

(e)y gyllideb ac ymrwymiadau ariannol y corff llywodraethu;

(f)yn achos ysgol wirfoddol ffederal a gynorthwyir, y weithred ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â’r ysgol honno; neu

(g)unrhyw fater arall y bodlonir y corff llywodraethu ei fod, oherwydd ei natur, yn gyfrinachol ac y dylai barhau yn gyfrinachol.

Cynnull cyfarfodydd y corff llywodraethu

57.—(1Rhaid i’r corff llywodraethu gynnal un cyfarfod o leiaf yn ystod pob tymor ysgol.

(2Rhaid i gyfarfodydd y corff llywodraethu gael eu cynnull gan y clerc ac wrth arfer y swyddogaeth hon, heb ragfarnu paragraff (3), rhaid i’r clerc gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan—

(a)y corff llywodraethu; neu

(b)y cadeirydd, i’r graddau nad yw unrhyw gyfarwyddyd o’r fath yn anghyson ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-baragraff (a).

(3Caiff unrhyw dri aelod o’r corff llywodraethu ofyn am gyfarfod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r clerc sy’n cynnwys crynodeb o’r busnes sydd i’w drafod; a rhaid i’r clerc gynnull cyfarfod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6) a (7), rhaid i’r clerc roi hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod, copi o’r agenda, ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill sydd i’w hystyried yn y cyfarfod o leiaf bum niwrnod gwaith clir ymlaen llaw i—

(a)pob llywodraethwr;

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); ac

(c)yr awdurdod lleol.

(5Pan fo’r cadeirydd yn penderfynu hynny, ar y sail bod materion sy’n galw am sylw brys, bydd yn ddigon i’r hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarfod nodi’r ffaith honno ac i’r hysbysiad, y copi o’r agenda, yr adroddiadau a’r papurau eraill sydd i’w hystyried gael eu rhoi o fewn cyfnod byrrach yn ôl cyfarwyddyd y person hwnnw.

(6Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod lle bo—

(a)diswyddo’r cadeirydd neu is-gadeirydd;

(b)atal unrhyw lywodraethwr;

(c)diswyddo llywodraethwr cymunedol neu noddwr-lywodraethwr; neu

(d)penderfyniad i gyflwyno hysbysiad o ddirwyn ysgol ffederal i ben o dan adran 80 o Ddeddf 2013;

i gael ei ystyried.

(7Pan fo paragraff (6) yn gymwys—

(a)rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod, copi o’r agenda ac unrhyw adroddiadau neu bapurau eraill i’w hystyried yn y cyfarfod o leiaf saith niwrnod gwaith clir ymlaen llaw; a

(b)nid yw pŵer y cadeirydd i roi cyfarwyddyd i gynnal cyfarfod o fewn cyfnod byrrach yn gymwys.

(8Caiff yr is-gadeirydd arfer swyddogaethau’r cadeirydd yn y rheoliad hwn yn absenoldeb y cadeirydd neu os bydd swydd y cadeirydd yn wag.

(9Ni fydd cyfarfod o’r corff llywodraethu a’i drafodion yn cael eu hannilysu oherwydd nad yw unrhyw berson wedi cael hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfarfod neu gopi o’r agenda.

Cworwm a thrafodion y corff llywodraethu

58.—(1Y cworwm ar gyfer cyfarfod o’r corff llywodraethu ac ar gyfer unrhyw bleidlais ar unrhyw fater mewn cyfarfod o’r fath yw hanner (wedi ei dalgrynnu i fyny i rif cyfan) aelodaeth y corff llywodraethu heb gynnwys unrhyw leoedd gwag nac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi eu hatal o’r cyfarfod hwnnw yn unol â rheoliad 61.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob cwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu gael ei ddyfarnu drwy fwyafrif o bleidleisiau’r llywodraethwyr sy’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cwestiwn.

(3Ni chaiff disgybl-lywodraethwyr cyswllt bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu.

(4Pan fo’r pleidleisiau wedi eu rhannu’n gyfartal bydd gan y cadeirydd neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n gweithredu fel cadeirydd at ddibenion y cyfarfod (ar yr amod bod person o’r fath yn llywodraethwr) ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(5Ni fydd unrhyw benderfyniad i gyflwyno hysbysiad o ddirwyn ysgol ffederal i ben o dan adran 80 o Ddeddf 2013 yn cael effaith, p’un a wneir y penderfyniad gan y corff llywodraethu ynteu gan bwyllgor, oni chaiff ei gadarnhau gan y corff llywodraethu mewn cyfarfod a gynhelir ar ôl cyfnod o wyth ar hugain o ddiwrnodau gwaith clir o leiaf, ar ôl y cyfarfod y gwnaed y penderfyniad ynddo ac—

(a)oni phennir y mater yn eitem o fusnes ar agenda’r ddau gyfarfod; a

(b)oni roddir hysbysiad o’r ail gyfarfod yn unol â rheoliad 57(7).

(6Ni chaiff trafodion corff llywodraethu ysgol eu hannilysu oherwydd—

(a)unrhyw le gwag ymhlith ei aelodau;

(b)unrhyw ddiffyg wrth ethol, penodi nac enwebu unrhyw lywodraethwr;

(c)unrhyw ddiffyg wrth benodi’r cadeirydd neu’r is-gadeirydd; neu

(d)bod mwy o lywodraethwyr gan y ffederasiwn mewn categori penodol nag y darperir ar eu cyfer gan yr offeryn llywodraethu(1).

Cofnodion a phapurau

59.—(1Rhaid i’r clerc (neu’r person a benodir i weithredu fel clerc at ddiben y cyfarfod yn unol â rheoliad 53(4)) sicrhau bod cofnodion trafodion cyfarfod o’r corff llywodraethu’n cael eu llunio a’u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu) gan y cadeirydd (neu gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd) yn y cyfarfod nesaf.

(2Rhaid i’r person sy’n gweithredu fel clerc y corff llywodraethu at ddibenion unrhyw gyfarfod ysgrifennu’n union cyn y nodyn sy’n cofnodi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw enwau’r aelodau hynny o’r corff llywodraethu ac unrhyw berson arall a oedd yn bresennol yn y cyfarfod dan sylw.

(3Rhaid i’r corff llywodraethu ddarparu copi o gofnodion drafft, neu o gofnodion llofnodedig cyfarfod penodol i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw os gofynnir amdano gan yr awdurdod dan sylw.

Cyhoeddi cofnodion a phapurau

60.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu bod copïau o’r canlynol ar gael i’w harchwilio ym mhob un o’r ysgolion ffederal, gan unrhyw berson â diddordeb—

(a)agenda pob cyfarfod;

(b)cofnodion wedi’u llofnodi o bob cyfarfod o’r fath;

(c)unrhyw adroddiad neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o’r fath; a

(d)cofnodion drafft unrhyw gyfarfod, os cymeradwywyd hwy gan y person sy’n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod hwnnw.

(2Caiff y corff llywodraethu dynnu allan o unrhyw eitem y mae’n ofynnol trefnu iddi fod ar gael yn unol â pharagraff (1) unrhyw ddeunydd sy’n ymwneud ag—

(a)person a enwir sy’n gweithio, neu y bwriedir y dylai weithio, yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal; neu

(b)disgybl yn yr ysgol sy’n cael ei enwi, neu un sy’n gwneud cais am le mewn ysgol ffederal; neu

(c)unrhyw fater arall y mae’r corff llywodraethu yn fodlon y dylai barhau yn gyfrinachol oherwydd ei natur.

(3Rhaid i bob tudalen o gopïau a gyhoeddir o unrhyw gofnodion drafft o drafodion cyfarfodydd a gymeradwywyd gan y cadeirydd nodi mai cofnodion drafft ydynt.

Atal llywodraethwyr

61.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), caiff y corff llywodraethu, drwy benderfyniad, atal llywodraethwr o’r cyfan neu o rai o gyfarfodydd y corff llywodraethu, neu o bwyllgor, am gyfnod penodol o hyd at chwe mis ar un neu ragor o’r seiliau canlynol—

(a)bod y llywodraethwr, ac yntau’n berson y telir iddo am weithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal, yn destun achos disgyblu mewn perthynas â chyflogaeth y person hwnnw;

(b)bod y llywodraethwr yn destun achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys, y gallai ei ganlyniad olygu y caiff y person hwnnw ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd fel llywodraethwr o dan Atodlen 7;

(c)bod y llywodraethwr wedi gweithredu mewn modd sy’n anghyson ag ethos neu gymeriad crefyddol ysgol ffederal ac wedi dwyn neu’n debygol o ddwyn anfri ar y ffederasiwn, ysgol ffederal, y corff llywodraethu neu ar swydd y person hwnnw; neu

(d)bod y llywodraethwr wedi torri dyletswydd y person hwnnw o gyfrinachedd i’r ffederasiwn neu ysgol ffederal neu i unrhyw aelod o’r staff neu i unrhyw ddisgybl yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal.

(2Ni fydd penderfyniad i atal llywodraethwr o’i swydd yn cael effaith oni fo’r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, y rhoddwyd hysbysiad ohono yn unol â rheoliad 57(7).

(3Cyn y cymerir pleidlais ar benderfyniad i atal llywodraethwr, rhaid i’r llywodraethwr sy’n cynnig y penderfyniad ddatgan yn y cyfarfod ei resymau dros wneud hynny, a rhaid rhoi cyfle i’r llywodraethwr sy’n destun y penderfyniad wneud datganiad yn ymateb cyn mynd allan o’r cyfarfod yn unol â rheoliad 75(2).

(4Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel petai’n effeithio ar hawl llywodraethwr a ataliwyd—

(a)i gael hysbysiadau o gyfarfodydd y corff llywodraethu, ac agendâu ac adroddiadau neu bapurau eraill ar eu cyfer; na

(b)i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r corff llywodraethu a gynullir yn unol â rheoliad 41 i ystyried diswyddo’r person hwnnw;

yn ystod cyfnod ei ataliad.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn i’w ddarllen fel petai’n rhwystro corff llywodraethu rhag atal llywodraethwr a ataliwyd o dan baragraff (1) am gyfnod neu gyfnodau penodol pellach, p’un a yw ar yr un sail â’r atal gwreiddiol ai peidio, a bydd paragraffau (1) i (4) yn gymwys i bob ataliad.

(6Ni chaiff llywodraethwr ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd o dan baragraff 5 o Atodlen 7 am beidio â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o’r corff llywodraethu tra bo wedi ei atal o dan y rheoliad hwn.

Dirprwyo swyddogaethau

62.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 63 o’r Rheoliadau hyn, rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) 1998(2) a rheoliad 7 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(3), caiff y corff llywodraethu ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau—

(a)i bwyllgor;

(b)i unrhyw lywodraethwr; neu

(c)i bennaeth y ffederasiwn neu bennaeth ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio).

(2Pan fo corff llywodraethu wedi dirprwyo swyddogaethau ni fydd hynny yn rhwystro’r corff llywodraethu rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(3Rhaid i’r corff llywodraethu adolygu’n flynyddol y modd yr arferir y swyddogaethau a ddirprwywyd ganddo.

Cyfyngiadau ar ddirprwyo a phwyllgorau penodedig

63.—(1Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo o dan reoliad 62(1) ei swyddogaethau o dan y rheoliadau canlynol—

(a)y rhai hynny yn Rhan 3 (categorïau o lywodraethwyr);

(b)y rhai hynny yn Rhan 4 (cyfansoddiad cyrff llywodraethu ffederasiwn);

(c)y rhai hynny yn Rhan 5 (diswyddo llywodraethwyr);

(d)y rhai hynny yn Rhan 6 (offerynnau llywodraethu);

(e)rheoliadau 50 a 52 (ethol a diswyddo cadeirydd ac is-gadeirydd);

(f)rheoliad 53 (penodi a diswyddo clerc y corff llywodraethu);

(g)rheoliad 61 (atal llywodraethwyr);

(h)rheoliad 62 (dirprwyo swyddogaethau);

(i)rheoliad 66 (sefydlu pwyllgorau);

ac ni chaiff ychwaith ddirprwyo ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phanelau dethol pennaeth a dirprwy bennaeth o dan reoliadau 10(9) i (20), 24(8) i (19) a 34 o’r Rheoliadau Staffio (fel y’u haddaswyd gan Atodlen 8).

(2Ni chaiff y corff llywodraethu ddirprwyo i unigolyn o dan reoliad 62(1)—

(a)ei swyddogaethau cynigion trefniadaeth ysgolion;

(b)y swyddogaethau:

(i)mewn cynllun a wnaed gan yr awdurdod lleol o dan adran 48(1)(4) o Ddeddf 1998, i’r graddau y mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu gymeradwyo cynllun cyllideb ffurfiol cyntaf y flwyddyn ariannol;

(ii)yn adran 88(1) i (3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(5) (cyfrifoldeb corff llywodraethu am ddisgyblaeth);

(iii)yn adrannau 88(6), 89(7), 89A(8) a 90(8)(9) o Ddeddf 1998 (sy’n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau derbyn), adran 90(1)(10) o Ddeddf 1998 (sy’n ymwneud â chyfeirio gwrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru), neu adran 94(11) o Ddeddf 1998 i’r graddau y mae’n ymwneud â phenderfynu ar drefniadau apêl gan y corff llywodraethu;

(iv)yn adran 63(12) o Ddeddf 1998 (targedau presenoldeb ysgol);

(v)yn adran 439(7) o Ddeddf 1996 (gorchmynion presenoldeb ysgol);

(vi)yn adrannau 95(2) a 97(3)(13) o Ddeddf 1998 (apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn a chyfeiriad i’r Cynulliad mewn cysylltiad â chyfarwyddyd a wneir gan yr awdurdod lleol i dderbyn plentyn); neu

(c)swyddogaethau y mae’n rhaid eu dirprwyo i’r pwyllgorau fel a bennir yn rheoliadau 67 i 69.

Adrodd wrth y corff llywodraethu ar ôl arfer swyddogaethau dirprwyedig

64.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unrhyw swyddogaeth o eiddo’r corff llywodraethu wedi ei dirprwyo i’r canlynol neu’n arferadwy fel arall gan y canlynol—

(a)llywodraethwr (gan gynnwys y cadeirydd neu’r is-gadeirydd);

(b)pennaeth y ffederasiwn neu (os nad oes pennaeth i’r ffederasiwn) ysgol ffederal (p’un a yw’r person hwnnw yn llywodraethwr ai peidio); neu

(c)pwyllgor.

(2Rhaid i unrhyw unigolyn neu bwyllgor y dirprwywyd swyddogaeth corff llywodraethu iddo neu sydd fel arall wedi arfer swyddogaeth corff llywodraethu, adrodd wrth y corff llywodraethu ynghylch unrhyw gam a gymerwyd neu benderfyniad a wnaed mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaeth honno.

(1)

Gweler adran 20(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 34.

(2)

O.S. 1998/2535, fel y’i diwygiwyd o ran Cymru gan Reoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2243 (Cy.3)) a chan Reoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2912 (Cy.209)).

(3)

O.S. 2000/3027 (Cy.195) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1396 (Cy.138)) a chan Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy.210)) a chan Reoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2940 (Cy.316)).

(4)

Diwygiwyd gan adran 40 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 i’r Ddeddf honno; a chan adran 57 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), ac Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(6)

Diwygiwyd gan adran 43(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol a Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), adran 54(1) a 64(2) o Ddeddf Addysg 2011 ac Atodlen 13 iddi.

(7)

Diwygiwyd gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2002; a chan adrannau 41, 45, 46(1), ac 184 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), a chan Ran 6 o Atodlen 18 i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd is-adran (1A) gan adran 106 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Cafodd adran 89 ei diwygio ymhellach gan baragraffau 53 a 57 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25).

(8)

Mewnosodwyd gan adran 47(2) o Ddeddf 2002. Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 58 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(9)

Disodlwyd gan adran 47 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 62 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(10)

Disodlwyd is-baragraff (1)(b) gan adran 41(1) ac (8)(a) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 53 a 62 o Ran 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25).

(11)

Diwygiwyd gan adrannau 50 a 51 o Ddeddf 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno; a chan adran 51(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Fe’i diwygiwyd ymhellach gan adran 152 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(12)

Diwygiwyd gan adran 53 o Ddeddf 2002, a Rhan 3 o Atodlen 21 i’r Ddeddf honno.

(13)

Diwygiwyd gan adran 49 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).