Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

5.  Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn:

(a)yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”; a

(b)yn rheoliad 13 (hysbysiad o fformiwla fabanod) yn lle “i’r Asiantaeth drwy anfon ati” rhodder “i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt”.

(1)

O.S. 2007/3573 (Cy.316), fel y’i diwygiwyd.