xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1102 (Cy. 110)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014

Gwnaed

25 Ebrill 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ebrill 2014

Yn dod i rym

23 Mai 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(4), 16(1)(e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trosglwyddo Swyddogaethau (Bwyd) (Cymru) 2014.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mai 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

2.  Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(2), ym mharagraff (3), is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007

3.  Mae Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn:

(a)yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff 1 cyn y diffiniad o “awdurdod bwyd” mewnosoder—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;; a

(b)yn rheoliad 3 (cyfyngiad ar werthu), paragraff 2, is-baragraff (a), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

Diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

4.  Yn rheoliad 3 (awdurdodau cymwys) o Reoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007(4), yn is-baragraff (a), yn lle “yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.

Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

5.  Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn:

(a)yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”; a

(b)yn rheoliad 13 (hysbysiad o fformiwla fabanod) yn lle “i’r Asiantaeth drwy anfon ati” rhodder “i Weinidogion Cymru drwy anfon atynt”.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Ebrill 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy.125)), Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1040 (Cy.100)), Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2611 (Cy.222)), a Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)), drwy drosglwyddo swyddogaethau maethiad o dan bob set o reoliadau o’r Asiantaeth Safonau Bwyd i Weinidogion Cymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p.16, fel y’i diwygiwyd. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(2)

O.S. 2000/1866 (Cy.125), fel y’i diwygiwyd.

(3)

O.S. 2007/1040 (Cy.100), fel y’i diwygiwyd.

(4)

O.S. 2007/2611 (Cy.222), fel y’i diwygiwyd.

(5)

O.S. 2007/3573 (Cy.316), fel y’i diwygiwyd.