xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 11 (Cy. 1) (C. 1)

Cartrefi Symudol, Cymru

Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014

Gwnaed

6 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 58(3)(b), 63(1), 63(9), 64(2) a (3) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983(2);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013; a

mae i “tribiwnlys” (“tribunal”) yr ystyr a roddir yn adran 55(1) o Ddeddf 2013.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 7 Ionawr 2014

2.  At ddibenion gwneud rheoliadau, y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Rhan 4 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ddod i rym yw 7 Ionawr 2014—

(a)adran 52 (rheolau safle);

(b)ym Mhennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 (cytundebau cartrefi symudol)—

(i)paragraffau 9 i 13 (gwerthu cartref symudol a rhoi cartref symudol yn anrheg); a

(ii)paragraff 23 (dogfen mewn perthynas â chynyddu’r ffi am y llain).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2014

3.—(1Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf 2013 ddod i rym yw 1 Hydref 2014—

(a)Rhan 1 o Ddeddf 2013 (cyflwyniad), ac Atodlen 1 iddi;

(b)Rhan 2 o Ddeddf 2013 (trwyddedu safleoedd cartrefi symudol, etc.);

(c)Rhan 3 o Ddeddf 2013 (amddiffyn rhag troi allan);

(d)Rhan 4 o Ddeddf 2013 (cytundebau cartrefi symudol), ac Atodlen 2 iddi, gan gynnwys gweddill adran 52 o Ran 4 a pharagraffau 9 i 13 a pharagraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2; ac

(e)Rhan 5 o Ddeddf 2013 (pwerau’r awdurdodau lleol), ac Atodlen 3 iddi.

(2Mae’r diwygiadau canlyniadol yn Atodlen 4 i Ddeddf 2013 i gael eu trin, felly, fel rhai nad ydynt yn cael effaith hyd 1 Hydref 2014.

Darpariaethau Arbed - gwerthu cartref symudol neu roi cartref symudol yn anrheg

4.—(1Daw’r erthygl hon i rym ar 1 Hydref 2014.

(2Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo meddiannydd cartref symudol, cyn 1 Hydref 2014, wedi cyflwyno cais i berchennog o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (gwerthiannau) (gan gynnwys o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan baragraff 9(2) o’r Bennod honno (anrhegion)).

(3Er gwaethaf erthygl 3—

(a)nid yw paragraffau 9 i 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â’r cais; a

(b)bydd paragraff 8 neu 9 (yn ôl fel y digwydd) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais.

(4Mae’r tribiwnlys i barhau i fod ag awdurdodaeth i ystyried unrhyw achosion a gyflwynir o dan baragraff 8(1E) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac mae adran 4 o Ddeddf 1983 (awdurdodaeth y tribiwnlys neu’r llys: Cymru a Lloegr) i barhau i gael effaith ar gyfer yr achosion hynny.

(5Mae’r arbediad ym mharagraff (3) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r cais—

(a)os yw’r meddiannydd, ar ôl gwneud cais o’r math a grybwyllir ym mharagraff 8(1E) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 bod y person y bwriedir gwerthu’r cartref symudol iddo neu ei roi iddo yn anrheg yn cael ei gymeradwyo—

(i)yn tynnu’r cais yn ôl; a

(ii)yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog yn tynnu’r cais yn ôl; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, os yw’r meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog yn tynnu’r cais yn ôl.

(6Yn achos gwerthiant, os yw gwerthiant y cartref symudol ac aseiniad y cytundeb yn digwydd ar 1 Hydref 2014 neu wedi hynny, yna er gwaethaf erthygl 3—

(a)nid yw paragraffau 9 i 13 o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â chomisiwn ar y gwerthiant; a

(b)mae Gorchymyn Cartrefi Symudol (Comisiynau) 1983(3) i barhau i gael effaith at ddiben penderfynu swm y comisiwn sy’n ddyladwy i’r perchennog.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

6 Ionawr 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn dwyn gweddill Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) i rym mewn dau gam. Mae’r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbed o dan Ddeddf 2013.

Mae erthygl 2 yn cychwyn darpariaethau penodol yn Neddf 2013 ar 7 Ionawr 2014, at ddibenion gwneud rheoliadau.

Mae erthygl 3(1) yn dwyn gweddill Deddf 2013, h.y. Rhannau 1 i 5 (ac Atodlenni 1 i 3) i rym ar 1 Hydref 2014. Mae erthygl 3(2) yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag Atodlen 4 i Ddeddf 2013.

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaethau arbed mewn perthynas â gwerthu cartref symudol neu roi cartref symudol yn anrheg o dan Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 sy’n golygu, pan fo meddiannydd cartref symudol, cyn 1 Hydref 2014, wedi cyflwyno cais i berchennog safle am gymeradwyo’r person y mae’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol iddo, neu roi’r cartref symudol yn anrheg iddo, y caiff y trafodiad fynd rhagddo (os mai hynny yw dymuniad y meddiannydd) o dan y darpariaethau statudol presennol.

Daeth Rhan 6 o Ddeddf 2013 i rym drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2013 y Cydsyniad Brenhinol.