ATODLEN 2Gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fyrddau Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau o dan y Rheoliadau

RHAN 2Penderfynu ar ardaloedd rheoledig

Gohirio ystyried ceisiadau5

Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi dyroddi hysbysiad o fwriad i wneud penderfyniad, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ohirio'r ystyried unrhyw gais a gyflwynwyd o dan Ran 4 neu Ran 5 o'r Rheoliadau hyn ond nas penderfynwyd gan y Bwrdd, os yw'r cais yn un y gallai'r penderfyniad arfaethedig effeithio arno—

a

hyd nes bo'r Bwrdd wedi penderfynu a yw'r ardal yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig ai peidio, a'r cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi dod i ben; neu

b

tan y dyddiad y penderfynir unrhyw apêl o'r fath.