Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 889 (Cy. 101)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

14 Ebrill 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Ebrill 2013

Yn dod i rym

10 Mai 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau yn adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos yn berthnasol, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Benderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd(4) fel cyfeiriad at y Penderfyniad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2013. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Mai 2013.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

2.  Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Rheoliad 3 (dehongli termau eraill)

3.  Yn rheoliad 3(2)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (e), hepgorer “ac”;

(b)ar ôl is-baragraff (f), mewnosoder—

ac

(ff)Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd,; ac

(c)yn lle “y Cyfarwyddebau hynny”, rhodder “yr offerynnau hynny”.

Trwyddedau ar gyfer arbrofion dros dro

4.  Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—

Trwyddedau ar gyfer arbrofion dros dro

21A.  Caiff Gweinidogion Cymru esemptio drwy drwydded unrhyw berson neu ddosbarth ar berson rhag cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn at ddibenion arbrawf dros dro a drefnir o dan—

(a)Erthygl 19 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys(6);

(b)Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(7);

(c)Erthygl 13a o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(8);

(ch)Erthygl 16 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(9); neu

(d)Erthygl 33 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(10).

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

14 Ebrill 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245) (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 3 yn ychwanegu Penderfyniad y Cyngor 2003/17/EC ar gywerthedd archwiliadau maes a gyflawnir mewn trydydd gwledydd ar gnydau sy'n cynhyrchu hadau ac ar gywerthedd hadau a gynhyrchir mewn trydydd gwledydd (OJ Rhif L 8, 14.1.2003, t. 10) at y rhestr o offerynnau'r UE y mae'r cyfeiriadau yn y prif Reoliadau i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae rheoliad 4 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwyddedu esemptiadau ar gyfer arbrofion dros dro a drefnir o dan unrhyw un neu ragor o'r pum Cyfarwyddeb Ewropeaidd ar farchnata hadau betys, hadau ŷd, hadau planhigion porthiant, hadau planhigion olew a ffibr a hadau llysiau, yn y drefn honno. Mae darpariaethau eraill y Cyfarwyddebau hyn eisoes yn cael eu gweithredu (o ran Cymru) gan y prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(1)

1964 p. 14. Diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4 ac Atodlen 4, paragraff 5; O.S. 1977/1112; ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49). Gweler adran 38(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(2)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(3)

Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(4)

OJ Rhif L 8, 14.1.2003, t. 10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Senedd Ewrop a'r Cyngor Rhif 1105/2012/EU (OJ Rhif L 328, 28.11.12, tt.4—6).

(5)

O.S. 2012/245.

(6)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).

(7)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309 (OJ/SE 1965 — 66, t. 143), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu y Comisiwn 2012/37/EU (OJ Rhif L 325, 23.11.2012, tt. 13—14).

(8)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298 (OJ/SE 1965 — 66, t. 132), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu y Comisiwn 2012/37/EU (OJ Rhif L 325, 23.11.12, tt. 13—14).

(9)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(10)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33.