xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9. Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—
9A.—(1) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd y pwerau a roddir gan erthygl 9, mae'r Corff i'w drin fel awdurdod lleol ac fel corff cyhoeddus at ddibenion darpariaethau Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(1), ac eithrio adran 2(2).
(2) Ond ni chaiff y Corff, o dan adran 1 o'r Ddeddf honno, wneud trefniadau a allai gael eu gwneud o dan adran 28(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011(2).”
1970 p. 39. Cafwyd diwygiadau i'r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn.