2013 Rhif 664 (Cy.77)
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd (Diddymu) 2013
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 128 o Ddeddf Diwygio Addysg 19881 ac sy'n arferadwy bellach ganddynt hwy2.
Yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, mae Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Morgannwg (“the University of Glamorgan Higher Education Corporation”)3, sef corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol o fewn ystyr adran 128(1)(b)(ii) o'r Ddeddf honno, wedi cydsynio i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd (“University of Wales, Newport Higher Education Corporation”)4 gael eu trosglwyddo iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd ac â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn unol ag adran 128(4) o'r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd (Diddymu) 2013 a daw i rym ar 11 Ebrill 2013.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Corfforaeth Casnewydd” (“the Newport Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd;
ystyr “Prifysgol Morgannwg” (“University of Glamorgan”) yw Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Morgannwg.
Diddymu Prifysgol Cymru, Casnewydd
3
Ar 1 Ebrill 2013 mae Corfforaeth Casnewydd wedi ei diddymu ac mae ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo i Brifysgol Morgannwg.
4
Mae adran 127 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn gymwys i unrhyw berson a gyflogwyd gan Gorfforaeth Casnewydd yn union cyn 1 Ebrill 2013 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno—
a
at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogwyd felly;
b
at y dyddiad trosglwyddo yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2013;
c
at yr awdurdod sy'n trosglwyddo yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Casnewydd;
d
at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Brifysgol Morgannwg.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)