2013 Rhif 639 (Cy.72)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013 ac maent yn dod i rym ar 8 Ebrill 2013.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 19922

Mae paragraff 3(a) o'r Atodlen i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 19923 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

a

ym mharagraff (i) yn lle “a higher rate” rhodder “an”;

b

ym mharagraff (ii) ar ôl “highest” mewnosoder “or middle”, ac ar ôl “section 72(4)(a)” mewnosoder “or section 72(4)(b)”;

c

ar ddiwedd paragraff (iii) hepgorer “or”; a

d

ar ôl paragraff (iv) mewnosoder—

or

v

the standard or enhanced rate of the daily living component of personal independence payment under section 78(3) of the Welfare Reform Act 20124;

Lesley GriffithsY Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn rhagnodi amodau y mae'n rhaid i weithwyr gofal a gwahanol bersonau o ddisgrifiadau eraill eu cyflawni er mwyn cael eu diystyried at ddibenion disgowntiau'r dreth gyngor y mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhagnodi ar eu cyfer.

Mae rheoliad 2(a) a (b) yn diwygio amodau Rheoliadau 1992 fel bod gweithwyr gofal sy'n darparu gofal i berson sydd â hawl i lwfans gweini ar unrhyw gyfradd, neu'r gyfradd uchaf neu ganol o'r rhan o lwfans byw i'r anabl sydd ar gyfer gofal dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, yn cyflawni'r gofynion angenrheidiol i gael eu diystyried at ddibenion adran 11 o Ddeddf 1992.

Mae rheoliad 2(c) a (d) yn diwygio'r gofyniad yn Rheoliadau 1992 fel bod gweithwyr gofal sy'n darparu gofal i berson sydd â hawl i gyfradd safonol neu gyfradd uwch y rhan o'r taliad annibyniaeth bersonol dan y Ddeddf Diwygio Lles 2012 sydd ar gyfer byw bob dydd yn cyflawni'r gofynion angenrheidiol i gael eu diystyried at ddibenion adran 11 o Ddeddf 1992.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol ar y costau a'r manteision tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.