- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gwnaed
17 Ionawr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Ionawr 2013
Yn dod i rym
7 Chwefror 2013
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 7 Chwefror 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sydd—
(a)yn perthyn i flwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013 neu wedi hynny, a
(b) yn cael eu dyroddi gan neu ar ran awdurdodau bilio Cymru yn unig.
2.—(1) Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(3) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ym mharagraff 7 o Atodlen 1—
(a)yn lle is-baragraff (b) rhodder—
“(b)a determination made under section 12 of the 1993 Act (discounts: special provision for Wales);”;
(b)hepgorer is-baragraff (bb);
(c)ar ddiwedd is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “;”;
(d)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—
“(f)a reduction made under section 13A(1)(b) of the 1992 Act; or
(g)a reduction made under section 13A(1)(c) of the 1992 Act.”.
(3) Ym mharagraff 8 o Atodlen 1 yn lle “sub-paragraph (a) or (b)” rhodder “sub-paragraph (a), (b) or (g)”.
(4) Ar ôl paragraff 8 o Atodlen 1 mewnosoder—
“8A. Where a statement falls to be given as mentioned in paragraph 7 by reason of the matter referred to in sub-paragraph (f) of that paragraph—
(a)a statement of the reasons for the reduction and its amount;
(b)a statement—
(i)informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2012(4) or contained in the authority’s scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012(5), as the case may be;
(ii)explaining the possible consequences (including prosecution) of failing to comply with that duty; and
(iii)setting out the circumstances a change in which might affect entitlement to the reduction or its amount.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) yn gwneud darpariaeth ynghylch materion i'w cynnwys, a gwybodaeth i'w darparu, gyda hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor a gyflwynir gan awdurdodau bilio Cymru neu ar eu rhan. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyniad cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor lleol yn unol â gofynion Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012. Mae rheoliad 2(2) a (3) yn gwneud diwygiadau canlyniadol er sicrhau bod hysbysiadau galw am dalu yn cyfeirio at ostyngiadau pan fo'n berthnasol.
Mae rheoliad 2(4) yn darparu ar gyfer cynnwys datganiad newydd ar hysbysiad galw am dalu, pan fo gostyngiad yn gymwys o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor lleol, fydd yn egluro swm y gostyngiad, y rheswm dros y gostyngiad a'r canlyniadau posibl am fethu â chydymffurfio â dyletswyddau i roi gwybod i'r awdurdod bilio am newidiadau perthnasol o ran amgylchiadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Yn ganlyniad i hyn, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
1992 p. 14; diwygiwyd adran 113(1) a (2) gan adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) a pharagraffau 40 a 52 o Atodlen 7 iddi, ac adran 80 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Gwnaed diwygiadau perthnasol pellach gan adrannau 10 (cynlluniau gostwng y dreth gyngor) ac 16 (darparu gwybodaeth am y dreth gyngor), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) ac Atodlen 1 iddi.
Mae'r pwerau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Cawsant eu trosglwyddo'n flaenorol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthgyl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnodion yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.
O.S. 1993/255; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2004/460 (Cy. 45) ac O.S. 2006/217.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: