xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Gwnaed
12 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mawrth 2013
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 113(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1), a pharagraff 15B o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, ac a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(2) o'r Ddeddf honno, paragraff 6 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, a pharagraffau 1 a 12 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3).
Yn unol â pharagraff 15B(6) o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno mae Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cydsynio i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2013. Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2013.
(2) Daw rheoliadau 3(c) i (e), 7 i 9 ac 11 i rym ar 29 Ebrill 2013.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 11.
3. Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a)ar ôl y diffiniad o “business day” mewnosoder—
““council tax offence” has the same meaning as in the detection of fraud regulations;”;
(b)ar ôl y diffiniad o “demand notice regulations” mewnosoder—
““detection of fraud regulations” means the Council Tax Reduction Schemes (Detection of Fraud and Enforcement) (Wales) Regulations 2013(5);”;
(c)ar ddiwedd y diffiniad o “exempt dwelling”, hepgorer “and”;
(d)ar ddiwedd y diffiniad o “managing agent” hepgorer “.” a mewnosoder “; and”;
(e)ar ôl y diffiniad o “managing agent” mewnosoder—
““universal credit” means universal credit under Part 1 of the Welfare Reform Act 2012(6).”
4. Ar ôl rheoliad 5 (gwybodaeth o ran marwolaethau) mewnosoder—
5A. The purposes prescribed under paragraph 15B(1) of Schedule 2 to the Act are—
(a)making a council tax reduction scheme;
(b)determining a person’s entitlement or continued entitlement to a reduction under a council tax reduction scheme;
(c)preventing, detecting, securing evidence of or prosecuting the commission of a council tax offence.
5B. The purposes prescribed under paragraph 15B(3) of Schedule 2 to the Act are any purposes connected with—
(a)making a council tax reduction scheme;
(b)determining a person’s entitlement or continued entitlement to a reduction under a council tax reduction scheme;
(c)preventing, detecting, securing evidence of or prosecuting the commission of a council tax offence;
(d)any proceedings before the Valuation Tribunal for Wales(7) in connection with a reduction under a council tax reduction scheme.
5C. The purposes prescribed under paragraph 15B(4) of Schedule 2 to the Act are—
(a)making a council tax reduction scheme;
(b)determining a person’s entitlement or continued entitlement to a reduction under a council tax reduction scheme;
(c)preventing, detecting, securing evidence of or prosecuting the commission of a council tax offence.”
5. Ym mharagraff (2)(e)(i) o reoliad 27 (trethdalwyr ar y cyd) ar ôl “Schedule 3 to the Act” mewnosoder “or any of regulations 13, 14, 16 or 17 of the detection of fraud regulations”.
6. Yn rheoliad 29 (casglu arian am gosbau)—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “Schedule 3 to the Act” mewnosoder “or any of regulations 13, 14, 16 or 17 of the detection of fraud regulations,”;
(b)ym mharagraff (5), ar ôl “Schedule 3 to the Act” mewnosoder “, regulations 16(4) or 17(6) of the detection of fraud regulations”.
7. Yn rheoliad 32 (dehongli a chymhwyso Rhan VI), yn is-baragraff (iii) o'r diffiniad o “earnings” ym mharagraff (1), ar ôl “Social Security Acts” mewnosoder “or universal credit”.
8. Ym mharagraff (2)(b) o reoliad 52 (y berthynas rhwng rhwymedïau), ar ôl “income support” mewnosoder “, universal credit”.
9. Yn rheoliad 54 (atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol: gorfodi)—
(a)ym mharagraff (5)(d), ar ôl “income support” mewnosoder “or universal credit”;
(b)ym mharagraff (6A), ar ôl “income support” mewnosoder “or universal credit”.
10. Ym mharagraff (1)(c) o reoliad 58 (atebolrwydd sy'n ddyledus ar adeg marwolaeth) ar ôl “Schedule 3 to the Act” mewnosoder “or any of regulations 13, 14, 16 or 17 of the detection of fraud regulations”.
11. Yn y ffurf a bennir yn Atodlen 3 (ffurf gorchymyn atafael enillion) yn is-baragraff (iii) o'r diffiniad o “earnings” ym mharagraff (1), ar ôl “Social Security Acts” mewnosoder “or universal credit”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â bilio, casglu a gorfodi'r dreth gyngor. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 mewn perthynas â Chymru er mwyn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r amgylchiadau lle y caiff swyddog Cyllid a Thollau ddarparu gwybodaeth i bersonau cymwys, ac at ba ddibenion. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn ehangu cymhwysiad y darpariaethau yn Rheoliadau 1992 ynglŷn â chasglu arian am gosbau, ac yn diwygio Rheoliadau 1992 er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Deddf Diwygio Lles 2012 wedi cyflwyno credyd cynhwysol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1992 er mwyn mewnosod diffiniadau o “council tax offences”, “detection of fraud regulations” ac “universal credit”.
Mae rheoliad 4 yn nodi at ba ddibenion y caiff swyddog Cyllid a Thollau ddarparu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r dreth gyngor i berson cymwys; at ba ddibenion eraill y caniateir defnyddio'r wybodaeth hon; ac at ba ddibenion y caniateir darparu'r wybodaeth hon i berson cymwys arall.
Mae rheoliadau 5 a 6 yn diwygio rheoliadau 27 a 29 o Reoliadau 1992, sy'n ymdrin â chasglu arian am gosbau, er mwyn darparu ar gyfer casglu arian am gosbau a osodir yn unol â rheoliadau 13, 14, 16 ac 17 o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau darganfod twyll”).
Mae rheoliadau 7 i 9 ac 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol er mwyn cymryd i ystyriaeth y ffaith bod credyd cynhwysol wedi ei gyflwyno.
Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 58 o Reoliadau 1992 er mwyn caniatáu casglu arian am gosbau a osodir yn unol â rheoliadau 13, 14, 16 ac 17 o'r Rheoliadau darganfod twyll fel atebolrwydd sy'n ddyledus ar adeg marwolaeth.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r asesiad gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1992 p.14. Diwygiwyd adran 113(2) gan adran 80 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 a mewnosodwyd paragraff 15B o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 gan adran 17(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).
Diwygiwyd paragraff 6 o Atodlen 3 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) gan adran 14 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17). Diwygiwyd paragraff 12 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 gan adran 14 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p.16), ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, adran 28 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) ac Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, ac adrannau 9 a 61 o Ddeddf Diwygio Lles 2009 (p.24), ac Atodlen 2 i'r Ddeddf honno. Mae paragraff 12 yn cael ei ddiwygio ymhellach gan adrannau 31 a 37 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p.24), ac Atodlenni 2 a 14 i'r Ddeddf honno, ond ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn nid yw'r diwygiadau eto mewn grym.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1992/613. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1992/3008, O.S. 1995/22, O.S. 2004/785, O.S. 2009/2709 ac O.S. 2013/62 (Cy.13).
Sefydlwyd Tribiwnlys Prisio Cymru gan Reoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 (O.S. 2010/713 (Cy.69)). Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2013/547 (Cy.59).