xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 5
1. Gradd gyntaf (gydag anrhydedd) mewn microbioleg (beth bynnag fo teitl y radd).
2. Gradd Meistr yn y Gwyddorau, ar yr amod—
(a)y dyfarnwyd y radd yn dilyn arholiad yn hytrach na thraethawd; a
(b)bod o leiaf un papur yn y radd yn bapur mewn microbioleg.
3. Cymrodoriaeth Sefydliad y Gwyddorau Biomeddygol, os enillwyd y Gymrodoriaeth honno ar sail pasio'r arholiad diploma arbenigol uwch mewn microbioleg feddygol, a osodir gan y Sefydliad hwnnw.
4. Y radd Meistr mewn Dadansoddi Cemegol a ddyfernir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.
5. Cymrodoriaeth neu Aelodaeth o'r Sefydliad Gwyddor a Thechnoleg Bwyd ynghyd ag aelodaeth o'i Grŵp Proffesiynol Microbioleg Bwyd.
6. Ym mharagraffau 1 a 2 o'r Rhan hon, ystyr “gradd” (“degree”) yw gradd a ddyfarnwyd gan gorff a gydnabyddir at ddibenion adran 214 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (sy'n ymwneud â chyrff sydd â phŵer i ddyfarnu graddau yn y Deyrnas Unedig) neu a ddyfarnwyd gan brifysgol mewn Aelod-wladwriaeth arall.
1. Labordy Cemegydd y Llywodraeth.
2. Labordy sy'n eiddo i Adran y Llywodraeth neu labordy o dan reolaeth gyfatebol llywodraeth Aelod-wladwriaeth arall.
3. Labordy a benodwyd yn labordy rheoli swyddogol o dan Reoliad 882/2004.
4. Labordy prifysgol yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.
5. Labordy 'corff cyllidadwy' o fewn yr ystyr a roddir i “fundable body” yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 2005(1)
6. Labordy Coleg Amaethyddol yr Alban.
7. Labordy sy'n arbenigo mewn microbioleg bwyd ac a achredwyd ar gyfer ISO/IEC 17025.