xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 434 (Cy.52)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013

Gwnaed

27 Chwefror 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Chwefror 2013

Yn dod i rym

1 Medi 2013

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(2)(b)(iii), (3)(b) a (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002(3) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2013.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y cwricwlwm Cymraeg” (“Welsh curriculum”) yw'r cwricwlwm a nodir yn—

(a)y ddogfen ar drywydd llythrennedd;

(b)y ddogfen llythrennedd — darllen;

(c)y ddogfen llythrennedd — llafaredd; ac

(d)y ddogfen llythrennedd — ysgrifennu;

(2Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103(1)(b) ac (c) o Ddeddf Addysg 2002.

RHAN 1Y Cyfnod Sylfaen

Llythrennedd — llafaredd

3.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

(2Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Llythrennedd — darllen

4.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

(2Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Llythrennedd — ysgrifennu

5.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

(2Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Foundation Phase” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Rhifedd

6.  Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhan honno o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Y Cyfnod Sylfaen” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.

Ar drywydd llythrennedd

7.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

(2Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen the routes to literacy yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol.

Ar drywydd rhifedd

8.  Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni addysgol mewn perthynas â'r meysydd dysgu perthnasol ar gyfer pob ysgol.

RHAN 2Yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol

Llythrennedd — llafaredd

9.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — oracy o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

(2Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — llafaredd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

Llythrennedd — darllen

10.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — reading o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

(2Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — darllen o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

Llythrennedd — ysgrifennu

11.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen literacy — writing o'r enw “Key Stage 2” a “Key Stage 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

(2Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen llythrennedd — ysgrifennu o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

Rhifedd

12.  Mae'r darpariaethau a nodir yn y rhannau hynny o'r ddogfen rhifedd o'r enw “Cyfnod Allweddol 2” a “Cyfnod Allweddol 3” yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

Ar drywydd llythrennedd

13.—(1Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer ysgolion Cymraeg.

(2Ar gyfer pob ysgol arall mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd llythrennedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol.

Ar drywydd rhifedd

14.  Mae'r darpariaethau a nodir yn y ddogfen ar drywydd rhifedd yn cael effaith at y diben o bennu rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol ar gyfer pob ysgol.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

27 Chwefror 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 108(2)(b)(iii) a (3) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu pwer i Weinidogion Cymru ragnodi drwy Orchymyn raglenni addysgol mewn cysylltiad â'r cyfnod sylfaen a rhaglenni astudio mewn cysylltiad â'r cyfnodau allweddol. Mae'r rhaglenni addysgol a'r rhaglenni astudio yn nodi'r hyn y mae rhaid ei addysgu i ddisgyblion.

Rhoddwyd effaith gyfreithiol i'r rhaglenni addysgol presennol ar gyfer y meysydd dysgu yn y cyfnod sylfaen gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008. Rhoddwyd effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio presennol ar gyfer y pynciau yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol gan Orchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni addysgol ychwanegol ar gyfer meysydd dysgu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu a datblygiad mathemategol yn y cyfnod sylfaen (Rhan 1 o'r Gorchymyn).

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn rhoi effaith gyfreithiol i'r rhaglenni astudio ychwanegol mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg yn yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol (Rhan 2 o'r Gorchymyn).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau yn Neddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 11 a 19 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

(4)

Rhif ISBN 9780750487054.

(5)

Rhif ISBN 9780750487078.

(6)

Rhif ISBN 9780750486965.

(7)

Rhif ISBN 9780750486989.

(8)

Rhif ISBN 9780750487009.

(9)

Rhif ISBN 9780750486996.

(10)

Rhif ISBN 9780750486972.

(11)

Rhif ISBN 9780750487016.

(12)

Rhif ISBN 9780750487030.

(13)

Rhif ISBN 9780750487047.