5. Yn rheoliad 16, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i ddyletswyddau milfeddyg canolfan mewn canolfan gasglu CE, a bennir ym mharagraff (1B), gael eu cyflawni hefyd, gan y milfeddyg hwnnw, pan fo'n goruchwylio mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu.
(1B) Y dyletswyddau yw'r rhai a bennir yn y darpariaethau canlynol o Ran 3 o Atodlen 3—
(a)is-baragraffau (ch), (d) ac (dd) o baragraff 1; a
(b)is-baragraff (b) o baragraff (2).”.