Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 398 (Cy.48)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

DIWYDIANNAU DA BYW

Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

21 Chwefror 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Chwefror 2013

Yn dod i rym

18 Mawrth 2013

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) (Diwygio) 2013.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac yn dod i rym ar 18 Mawrth 2013.

Diwygiadau i Reoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008

2.  Diwygir Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008(2) yn unol â'r Rheoliadau canlynol.

Dehongli

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2, ar ôl y diffiniad o “mangre sydd heb ei thrwyddedu” mewnosoder—

ystyr “mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu” (“unlicensed processing premises”) yw mangre sydd heb ei thrwyddedu—

(a)

ar gyfer prosesu semen—

(i)

a gasglwyd mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu neu ganolfan gasglu ddomestig, a

(ii)

nas bwriedir ar gyfer y fasnach ryng-Gymunedol, a

(b)

a oruchwylir gan filfeddyg canolfan o ganolfan gasglu CE;.

Cymeradwyo anifeiliaid buchol i'w defnyddio mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu

4.—(1Ym mharagraff (1) o reoliad 10, hepgorer “, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid,”.

(2Ym mharagraff (4) o reoliad 10, hepgorer “neu'r anifail ymlid a ddefnyddiwyd i gasglu'r semen hwnnw”.

Dyletswyddau penodol milfeddygon canolfannau a gweithredwyr mangreoedd sydd heb eu trwyddedu

5.  Yn rheoliad 16, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i ddyletswyddau milfeddyg canolfan mewn canolfan gasglu CE, a bennir ym mharagraff (1B), gael eu cyflawni hefyd, gan y milfeddyg hwnnw, pan fo'n goruchwylio mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu.

(1B) Y dyletswyddau yw'r rhai a bennir yn y darpariaethau canlynol o Ran 3 o Atodlen 3—

(a)is-baragraffau (ch), (d) ac (dd) o baragraff 1; a

(b)is-baragraff (b) o baragraff (2)..

Defnyddio anifeiliaid ymlid

6.  Yn lle rheoliad 21 rhodder—

Defnyddio anifeiliaid ymlid

21.(1) Ni chaiff neb ddefnyddio anifail ymlid i gynorthwyo gyda chasglu semen oni fydd yr anifail hwnnw wedi ei gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(2) Ond ni fydd cymeradwyaeth o'r fath yn ofynnol ar gyfer anifail ymlid a ddefnyddir i gynorthwyo gyda chasglu semen mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu..

Prosesu semen

7.  Yn rheoliad 24, yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—

(a)mewn canolfan gasglu CE;

(b)mewn canolfan gasglu ddomestig; neu

(c)mewn mangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu..

Cyflenwi semen rhewedig

8.  Yn rheoliad 28, ym mharagraff (2), yn lle “yw wedi ei storio” rhodder “oedd y semen rhewedig wedi ei storio yn flaenorol”.

Y mesurau sy'n gymwys i ganolfannau casglu CE

9.  Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2 o Ran 1, yn lle “dogn” rhodder “casgliad”.

Y mesurau sy'n gymwys i ganolfan gasglu ddomestig

10.  Yn Atodlen 5, ym mharagraff 2 o Ran 1, yn lle “dogn” rhodder “casgliad”.

Dyletswyddau gweithredwyr mangreoedd sydd heb eu trwyddedu

11.  Yn Atodlen 7—

(a)ym mharagraff 1(c), yn lle “neu ganolfan gasglu ddomestig i'w brosesu” rhodder “, i ganolfan gasglu ddomestig neu i fangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu i'w brosesu”;

(b)yn lle paragraff 1(c)(ii) rhodder—

(ii)pan symudir y semen i ganolfan gasglu CE, bod y profion a bennir ym mharagraff 1(1) o Ran 2 o Atodlen 3 wedi eu cynnal ar yr anifail buchol a bod y canlyniadau'n negyddol;

(iia)pan symudir y semen i ganolfan gasglu ddomestig neu i fangre brosesu sydd heb ei thrwyddedu, bod y profion a bennir ym mharagraff 2 o Ran 2 o Atodlen 8 wedi eu cynnal ar yr anifail buchol a bod y canlyniadau'n negyddol;; ac

(c)ym mharagraff 2(2), yn lle “i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y mae semen yr anifail buchol yn cael ei symud” rhodder “i'r milfeddyg canolfan sy'n goruchwylio'r ganolfan neu'r fangre y symudir semen yr anifail buchol”.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

21 Chwefror 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1040) (Cy. 110) (“Rheoliadau 2008”) sy'n rheoli gwaith casglu, prosesu a storio semen buchol. Mae Rheoliadau 2008 yn sefydlu dwy drefn: mae un drefn yn caniatáu i semen gael ei gasglu a'i brosesu ar gyfer ei fasnachu ag Aelod-wladwriaethau eraill o'r UE, ac y mae'r drefn arall yn caniatáu casglu semen i'w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig.

Mae Rheoliadau 2008 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynglŷn ag iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i'r fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rhywogaethau buchol ac i fewnforion o'r semen hwnnw (OJ Rhif L 194, 22.7.1988, t.10), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif L 219, 14.8.2008, t.40).

Yn benodol, mae rheoliadau 4 a 6 yn darparu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer defnyddio buchod ymlid mewn canolfannau casglu semen sydd heb eu trwyddedu.

Mae rheoliadau 3, 5, 7 ac 11 (sydd, yn eu trefn, yn diwygio rheoliadau 2, 16, 24 o Reoliadau 2008 ac Atodlen 7 i'r Rheoliadau hynny) yn ymwneud â mangreoedd prosesu sydd heb eu trwyddedu, lle y caniateir prosesu semen, a gasglwyd naill ai mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu neu ganolfan gasglu ddomestig, ac nas bwriedir ar gyfer y fasnach ryng-Gymunedol, yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth gan filfeddyg canolfan gasglu CE.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.

(1)

1984 p. 40; diwygiwyd adran 10 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p.50) a Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44). Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd o dan y Ddeddf i'r “appropriate Minister”, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2, Atodlen 1, (O.S. 1999/672), ac y maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.