2013 Rhif 374 (Cy.46)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg Cambria (Corffori) 2013

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) a 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921 ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru2.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 16A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 20073.

Yn unol â hyn, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Cambria (Corffori) 2013 a daw i rym ar 26 Mawrth 2013.

Corfforaeth Newydd2

Ar 26 Mawrth 2013 mae corff corfforaethol o'r enw Coleg Cambria i'w sefydlu, at ddiben sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol o'r un enw.

Dyddiad gweithredu3

Y dyddiad gweithredu a bennir mewn perthynas â Choleg Cambria yw 1 Awst 2013, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Cambria o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Leighton AndrewsY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corfforaeth addysg bellach a elwir “Coleg Cambria” o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) at ddiben rhedeg y sefydliad addysgol o'r un enw. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer pennu 1 Awst 2013 yn ddyddiad gweithredu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, sef y dyddiad y mae Coleg Cambria i redeg, o hynny ymlaen, y sefydliad addysgol o'r un enw.

Cyhoeddwyd drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 16A o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.