xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 361 (Cy. 43)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013

Gwnaed

26 Chwefror 2013

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), a drosglwyddwyd wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd(8).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ardal gorfodi sifil”, “awdurdod gorfodi” a “tâl cosb” yr un ystyr â “civil enforcement area”, “enforcement authority” a “penalty charge” yn y drefn honno yn Rhan 6 o Ddeddf 2004;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984;

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004(3);

ystyr “dyfarnydd” (“adjudicator”) yw dyfarnydd a benodwyd o dan Ran 4 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013(4); ac

ystyr “y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau” (“the Representations and Appeals Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2013(5).

Hawl i wneud sylwadau ynghylch cerbyd a symudwyd ymaith

3.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cerbyd wedi ei ddarganfod mewn ardal gorfodi sifil ac wedi ei symud ymaith o dan adran 99 o Ddeddf 1984 a bod person—

(a)o dan ofyniad i dalu swm i gael y cerbyd yn ôl o dan adran 101A o'r Ddeddf honno;

(b)yn cael swm mewn cysylltiad â'r cerbyd o dan adran 101A(2) o'r Ddeddf honno;

(c)yn cael ei hysbysu nad oedd yr enillion ar werthiant y cerbyd yn fwy na swm agregedig y taliadau perthnasol fel a ddisgrifir yn adran 101A(2) a (3) o'r Ddeddf honno; neu

(d)yn cael ei hysbysu bod y cerbyd wedi cael ei waredu heb fod unrhyw enillion ar ei werthiant.

(2Yn union ar ôl i'r achlysur y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ddigwydd, rhaid i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gael ei hysbysu—

(a)o'i hawl i wneud sylwadau i'r awdurdod gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)o'i hawl i apelio i ddyfarnydd os na chaiff y sylwadau hynny eu derbyn,

a rhaid i'r wybodaeth honno gynnwys datganiad o effeithiau paragraffau (4) a (5).

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (2), neu beri ei bod yn cael ei rhoi, yn ysgrifenedig.

(4Caiff person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wneud sylwadau i'r perwyl—

(a)bod un neu fwy o'r seiliau a bennir ym mharagraff (5) yn gymwys; neu

(b)bod rhesymau grymus, p'un a yw'r seiliau hynny'n gymwys ai peidio, pam, o dan amgylchiadau penodol yr achos, y dylai'r awdurdod gorfodi—

(i)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd;

(ii)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a ddidynnwyd o enillion y gwerthiant mewn cysylltiad â'r taliadau perthnasol; neu

(iii)ildio ei hawl i adennill pob un o'r symiau neu unrhyw un o'r symiau sy'n ddyledus iddo oherwydd symud ymaith neu waredu'r cerbyd,

a rhaid i unrhyw sylwadau o'r fath fod ar y ffurf a bennir gan yr awdurdod gorfodi.

(5Dyma'r seiliau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (4)(a)—

(a)nad oedd yr amgylchiadau lle y caniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan mewn ardal gorfodi sifil yn amgylchiadau lle'r oedd tâl cosb yn daladwy yn rhinwedd rheoliad 4 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;

(b)nad oedd swyddog gorfodi sifil, yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol, wedi gosod hysbysiad tâl cosb ar y cerbyd neu wedi traddodi hysbysiad o'r fath i'r person yr oedd yn ymddangos i'r swyddog hwnnw mai ef oedd â gofal dros y cerbyd, cyn symud y cerbyd ymaith;

(c)ar yr adeg y symudwyd y cerbyd ymaith, nad oedd y pŵer i symud y cerbyd ymaith, a roddir gan baragraff (2) o reoliad 5C o Reoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986(6) yn rhinwedd paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw, yn arferadwy;

(d)yr oedd caniatâd wedi ei roi i'r cerbyd aros yn ei unfan yn y man lle'r oedd gan berson a oedd yn rheoli'r cerbyd heb gydsyniad y perchennog;

(e)nad oedd y man lle'r oedd y cerbyd yn aros yn ei unfan mewn ardal gorfodi sifil;

(f)bod y tâl cosb neu dâl arall a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd yn fwy na'r swm a oedd yn gymwys o dan amgylchiadau'r achos; neu

(g)y cafwyd bod amhriodoldeb ar ran yr awdurdod gorfodi yn y gweithdrefnau.

(6Wrth benderfynu'r ffurf ar gyfer gwneud sylwadau o dan baragraff (4) rhaid i'r awdurdod gorfodi weithredu drwy'r cyd-bwyllgor y mae, yn unol â rheoliad 15 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol, yn arfer ei swyddogaethau o ran y dyfarnwyr.

Dyletswydd awdurdod gorfodi y gwneir sylwadau iddo

4.—(1Caiff yr awdurdod gorfodi ddiystyru unrhyw sylwadau o dan reoliad 3 sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad pan hysbysir y person sy'n gwneud y sylwadau o dan reoliad 3(2) o'i hawl i wneud sylwadau.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1), os gwneir sylwadau iddo yn unol â rheoliad 3(4), rhaid i'r awdurdod gorfodi, cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r sylwadau i law—

(a)ystyried y sylwadau hynny ac unrhyw dystiolaeth ategol y mae'r person sy'n eu gwneud yn eu darparu; a

(b)cyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'i benderfyniad p'un a yw'n derbyn—

(i)bod sail a bennwyd yn rheoliad 3(5) yn gymwys; neu

(ii)bod rhesymau grymus o'r fath y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 3(4)(b).

(3Pan fo awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(i) ei fod yn derbyn bod sail a bennwyd yn rheoliad 3(5) yn gymwys, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad hwnnw)—

(a)ad-dalu unrhyw symiau—

(i)yr oedd yn ofynnol i'r person y rhyddhawyd y cerbyd iddo dalu o dan adran 101A(1) o Ddeddf 1984; neu

(ii)a ddidynnwyd oddi wrth yr enillion o werthiant y cerbyd yn unol ag adran 101A(2) o'r Ddeddf honno,

ac eithrio i'r graddau (os oes rhai) y talwyd neu y didynnwyd y symiau hynny'n briodol; a

(b) hysbysu'r person sy'n gwneud sylwadau ei fod wedi ildio ei hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod wedi bod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu.

(4Pan na fo awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(i) ond yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(ii) ei fod yn derbyn bod rhesymau cryf o'r fath, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad hwnnw)—

(a)ad-dalu'r symiau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(a) neu'r rhai hynny y mae'n ystyried sy'n briodol yn amgylchiadau'r achos; a

(b)hysbysu'r person sy'n gwneud sylwadau ei fod wedi ildio ei hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod wedi bod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu.

Apelau i ddyfarnydd o ran penderfyniadau o dan reoliad 4

5.—(1Pan fo awdurdod yn cyflwyno hysbysiad gwrthod o dan reoliad 4(2)(b) o ran sylwadau o dan reoliad 3(4), caiff y person sy'n gwneud y sylwadau hynny—

(a)o fewn 28 o ddiwrnodau, sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad hwnnw; neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod hirach y bydd dyfarnydd yn ei ganiatáu,

apelio at ddyfarnydd yn erbyn penderfyniad yr awdurdod.

(2Ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r dyfarnydd ystyried y sylwadau o dan sylw ac unrhyw sylwadau ychwanegol a wneir gan yr apelydd.

(3Os bydd y dyfarnydd yn dod i'r casgliad—

(a)bod unrhyw rai o'r seiliau y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 3(5) yn gymwys; a

(b)y byddai'r awdurdod gorfodi wedi bod o dan y ddyletswydd a osodwyd gan reoliad 4(3) i ad-dalu unrhyw swm os oedd wedi cyflwyno hysbysiad ei fod yn derbyn bod y sail o dan sylw yn gymwys,

rhaid i'r dyfarnydd gyfarwyddo'r awdurdod hwnnw i ad-dalu'r swm hwnnw.

(4Rhaid i'r awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (3) gydymffurfio ag ef ar unwaith a bydd unrhyw hawl sydd ganddo i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod wedi bod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu, yn peidio â bod.

(5Os na fydd y dyfarnydd yn rhoi unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (3) ond ei fod wedi ei fodloni bod rhesymau cryf, o dan amgylchiadau penodol yr achos, pam y dylid ad-dalu rhywfaint o'r symiau neu'r cyfan o'r symiau a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd, neu a ddidynnwyd o enillion y gwerthiant, caiff y dyfarnydd argymell bod yr awdurdod gorfodi yn gwneud y cyfryw ad-daliad.

(6Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y caiff argymhelliad ei gyflwyno iddo o dan baragraff (5) ystyried o'r newydd gwneud ad-daliad o'r symiau hynny gan roi ystyriaeth lawn i unrhyw sylwadaeth gan y dyfarnydd ac, o fewn y cyfnod o bymtheg ar hugain o ddiwrnodau (“y cyfnod o 35 o ddiwrnodau”) sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd, hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd p'un a yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd ai peidio.

(7Os bydd yr awdurdod gorfodi yn hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd nad yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd, rhaid iddo ar yr un pryd eu hysbysu o'r rhesymau dros ei benderfyniad.

(8Ni cheir apelio at y dyfarnydd yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (7).

(9Os bydd yr awdurdod gorfodi'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd, rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau.

(10Os bydd yr awdurdod gorfodi yn methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (6) o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau, bernir bod yr awdurdod wedi derbyn argymhelliad y dyfarnydd a rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd yn union ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

Y weithdrefn sydd i'w dilyn gan ddyfarnwyr, cyflwyno dogfennau ac adennill symiau sy'n daladwy

6.—(1Bydd yr Atodlen i'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau (“yr Atodlen”) yn cael effaith o ran y weithdrefn a chyflwyno dogfennau mewn achosion gerbron dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai wedi cael ei hymgorffori yn y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraff (3).

(2Yn unol â hynny, bernir y bydd cyfeiriadau yn yr Atodlen honno fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd paragraff (1) o'r Rheoliadau hyn yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hyn ac nid at y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.

(3Dyma'r addasiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)—

(a)ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “appeal” yn lle “regulation 7(1) or 10(1)” rhodder “regulation 5”;

(b)ym mharagraff 2(3), yn lle “regulation 7(1)(a) or 10(1)(a) (as the case may be)” rhodder “regulation 5(1)(a)”;

(c)ym mharagraff 4(1) yn lle “regulation 4(2)(b) or 8(4), whichever is appropriate in the circumstances” rhodder “regulation 3(4)”.

(4Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen honno fel y'i haddaswyd, caiff dyfarnydd reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(5Bydd unrhyw swm sy'n daladwy—

(a)o dan benderfyniad y dyfarnydd;

(b) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ad-dalu unrhyw swm,

yn swm, os bydd llys sirol yn gorchymyn hynny, sydd i'w adennill gan y person y mae'r swm yn daladwy iddo fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys sirol.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys i dâl cosb sy'n parhau'n daladwy yn dilyn dyfarniad o dan reoliad 7 o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.

Dirymu

7.  Mae Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008(7) drwy hyn wedi eu dirymu.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwneud sylwadau ac apelau yn erbyn taliadau a godir am symud ymaith, storio a gwaredu cerbyd a symudir ymaith o dan y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 o ardal sydd yn ardal gorfodi sifil yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008 (O.S. 2008/615).

Mae'r Rheoliadau hyn i'w darllen ar y cyd â Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/362) a Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/359).

Mae rheoliad 3 yn caniatáu i berson y mae ei gerbyd wedi ei symud ymaith o ardal gorfodi sifil o dan adran 99 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (symud ymaith gerbydau sydd wedi eu parcio yn anghyfreithlon, neu sydd wedi eu parcio mewn ffordd sy'n achosi rhwystr neu sy'n beryglus, neu sydd wedi eu gadael neu wedi torri i lawr) i wneud sylwadau i'r awdurdod gorfodi ac apelio i ddyfarnydd pan fo sylwadau o'r fath yn cael eu gwrthod. Mae rheoliad 4 yn nodi dyletswyddau'r awdurdod gorfodi y mae sylwadau'n cael eu cyflwyno iddo ac mae rheoliad 5 yn darparu bod apêl yn cael ei gwneud i ddyfarnydd pan fo sylwadau yn cael eu gwrthod o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn cymhwyso'r Atodlen i Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2013 o ran gweithdrefn a chyflwyno dogfennau mewn achosion gerbron dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 7 yn delio â dirymu Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008, y mae'r Rheoliadau hyn yn eu disodli.

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth Is-adran Trafnidiaeth Gyhoeddus, Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1984 p.27. Mewnosodwyd adran 101B, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 91 a pharagraff 3(2) o Atodlen 11.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a'r Arglwydd Ganghellor o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

O.S. 2013/362.

(5)

O.S. 2013/359.

(6)

O.S. 1986/183. Mewnosodwyd Rheoliad 5C o ran Cymru gan O.S. 2008/612 (Cy.64).

(7)

O.S. .