xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 361 (Cy. 43)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013

Gwnaed

26 Chwefror 2013

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gan adran 101B o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), a drosglwyddwyd wedi hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd(3).

(1)

1984 p.27. Mewnosodwyd adran 101B, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 91 a pharagraff 3(2) o Atodlen 11.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a'r Arglwydd Ganghellor o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan ddarpariaethau Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran adrannau 99 i 103 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.