Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y'u gwneir.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “ardal gorfodi sifil”, “awdurdod gorfodi” a “tâl cosb” yr un ystyr â “civil enforcement area”, “enforcement authority” a “penalty charge” yn y drefn honno yn Rhan 6 o Ddeddf 2004;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984;
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004(1);
ystyr “dyfarnydd” (“adjudicator”) yw dyfarnydd a benodwyd o dan Ran 4 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;
ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013(2); ac
ystyr “y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau” (“the Representations and Appeals Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) (Cymru) 2013(3).
Hawl i wneud sylwadau ynghylch cerbyd a symudwyd ymaith
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cerbyd wedi ei ddarganfod mewn ardal gorfodi sifil ac wedi ei symud ymaith o dan adran 99 o Ddeddf 1984 a bod person—
(a)o dan ofyniad i dalu swm i gael y cerbyd yn ôl o dan adran 101A o'r Ddeddf honno;
(b)yn cael swm mewn cysylltiad â'r cerbyd o dan adran 101A(2) o'r Ddeddf honno;
(c)yn cael ei hysbysu nad oedd yr enillion ar werthiant y cerbyd yn fwy na swm agregedig y taliadau perthnasol fel a ddisgrifir yn adran 101A(2) a (3) o'r Ddeddf honno; neu
(d)yn cael ei hysbysu bod y cerbyd wedi cael ei waredu heb fod unrhyw enillion ar ei werthiant.
(2) Yn union ar ôl i'r achlysur y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) ddigwydd, rhaid i berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo gael ei hysbysu—
(a)o'i hawl i wneud sylwadau i'r awdurdod gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn; a
(b)o'i hawl i apelio i ddyfarnydd os na chaiff y sylwadau hynny eu derbyn,
a rhaid i'r wybodaeth honno gynnwys datganiad o effeithiau paragraffau (4) a (5).
(3) Rhaid i'r awdurdod gorfodi roi'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (2), neu beri ei bod yn cael ei rhoi, yn ysgrifenedig.
(4) Caiff person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wneud sylwadau i'r perwyl—
(a)bod un neu fwy o'r seiliau a bennir ym mharagraff (5) yn gymwys; neu
(b)bod rhesymau grymus, p'un a yw'r seiliau hynny'n gymwys ai peidio, pam, o dan amgylchiadau penodol yr achos, y dylai'r awdurdod gorfodi—
(i)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd;
(ii)ad-dalu rhywfaint o'r swm neu'r cyfan ohono a ddidynnwyd o enillion y gwerthiant mewn cysylltiad â'r taliadau perthnasol; neu
(iii)ildio ei hawl i adennill pob un o'r symiau neu unrhyw un o'r symiau sy'n ddyledus iddo oherwydd symud ymaith neu waredu'r cerbyd,
a rhaid i unrhyw sylwadau o'r fath fod ar y ffurf a bennir gan yr awdurdod gorfodi.
(5) Dyma'r seiliau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (4)(a)—
(a)nad oedd yr amgylchiadau lle y caniatawyd i'r cerbyd aros yn ei unfan mewn ardal gorfodi sifil yn amgylchiadau lle'r oedd tâl cosb yn daladwy yn rhinwedd rheoliad 4 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol;
(b)nad oedd swyddog gorfodi sifil, yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol, wedi gosod hysbysiad tâl cosb ar y cerbyd neu wedi traddodi hysbysiad o'r fath i'r person yr oedd yn ymddangos i'r swyddog hwnnw mai ef oedd â gofal dros y cerbyd, cyn symud y cerbyd ymaith;
(c)ar yr adeg y symudwyd y cerbyd ymaith, nad oedd y pŵer i symud y cerbyd ymaith, a roddir gan baragraff (2) o reoliad 5C o Reoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986(4) yn rhinwedd paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw, yn arferadwy;
(d)yr oedd caniatâd wedi ei roi i'r cerbyd aros yn ei unfan yn y man lle'r oedd gan berson a oedd yn rheoli'r cerbyd heb gydsyniad y perchennog;
(e)nad oedd y man lle'r oedd y cerbyd yn aros yn ei unfan mewn ardal gorfodi sifil;
(f)bod y tâl cosb neu dâl arall a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd yn fwy na'r swm a oedd yn gymwys o dan amgylchiadau'r achos; neu
(g)y cafwyd bod amhriodoldeb ar ran yr awdurdod gorfodi yn y gweithdrefnau.
(6) Wrth benderfynu'r ffurf ar gyfer gwneud sylwadau o dan baragraff (4) rhaid i'r awdurdod gorfodi weithredu drwy'r cyd-bwyllgor y mae, yn unol â rheoliad 15 o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol, yn arfer ei swyddogaethau o ran y dyfarnwyr.
Dyletswydd awdurdod gorfodi y gwneir sylwadau iddo
4.—(1) Caiff yr awdurdod gorfodi ddiystyru unrhyw sylwadau o dan reoliad 3 sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad pan hysbysir y person sy'n gwneud y sylwadau o dan reoliad 3(2) o'i hawl i wneud sylwadau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), os gwneir sylwadau iddo yn unol â rheoliad 3(4), rhaid i'r awdurdod gorfodi, cyn diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r sylwadau i law—
(a)ystyried y sylwadau hynny ac unrhyw dystiolaeth ategol y mae'r person sy'n eu gwneud yn eu darparu; a
(b)cyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad o'i benderfyniad p'un a yw'n derbyn—
(i)bod sail a bennwyd yn rheoliad 3(5) yn gymwys; neu
(ii)bod rhesymau grymus o'r fath y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 3(4)(b).
(3) Pan fo awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(i) ei fod yn derbyn bod sail a bennwyd yn rheoliad 3(5) yn gymwys, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad hwnnw)—
(a)ad-dalu unrhyw symiau—
(i)yr oedd yn ofynnol i'r person y rhyddhawyd y cerbyd iddo dalu o dan adran 101A(1) o Ddeddf 1984; neu
(ii)a ddidynnwyd oddi wrth yr enillion o werthiant y cerbyd yn unol ag adran 101A(2) o'r Ddeddf honno,
ac eithrio i'r graddau (os oes rhai) y talwyd neu y didynnwyd y symiau hynny'n briodol; a
(b) hysbysu'r person sy'n gwneud sylwadau ei fod wedi ildio ei hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod wedi bod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu.
(4) Pan na fo awdurdod yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(i) ond yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (2)(b)(ii) ei fod yn derbyn bod rhesymau cryf o'r fath, rhaid iddo (pan fydd yn cyflwyno'r hysbysiad hwnnw)—
(a)ad-dalu'r symiau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(a) neu'r rhai hynny y mae'n ystyried sy'n briodol yn amgylchiadau'r achos; a
(b)hysbysu'r person sy'n gwneud sylwadau ei fod wedi ildio ei hawl i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod wedi bod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu.
Apelau i ddyfarnydd o ran penderfyniadau o dan reoliad 4
5.—(1) Pan fo awdurdod yn cyflwyno hysbysiad gwrthod o dan reoliad 4(2)(b) o ran sylwadau o dan reoliad 3(4), caiff y person sy'n gwneud y sylwadau hynny—
(a)o fewn 28 o ddiwrnodau, sy'n dechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad hwnnw; neu
(b)o fewn unrhyw gyfnod hirach y bydd dyfarnydd yn ei ganiatáu,
apelio at ddyfarnydd yn erbyn penderfyniad yr awdurdod.
(2) Ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r dyfarnydd ystyried y sylwadau o dan sylw ac unrhyw sylwadau ychwanegol a wneir gan yr apelydd.
(3) Os bydd y dyfarnydd yn dod i'r casgliad—
(a)bod unrhyw rai o'r seiliau y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 3(5) yn gymwys; a
(b)y byddai'r awdurdod gorfodi wedi bod o dan y ddyletswydd a osodwyd gan reoliad 4(3) i ad-dalu unrhyw swm os oedd wedi cyflwyno hysbysiad ei fod yn derbyn bod y sail o dan sylw yn gymwys,
rhaid i'r dyfarnydd gyfarwyddo'r awdurdod hwnnw i ad-dalu'r swm hwnnw.
(4) Rhaid i'r awdurdod gorfodi y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan baragraff (3) gydymffurfio ag ef ar unwaith a bydd unrhyw hawl sydd ganddo i adennill unrhyw swm a allai fel arall fod wedi bod yn ddyledus iddo drwy dâl cosb neu oherwydd symud y cerbyd ymaith, ei storio neu ei waredu, yn peidio â bod.
(5) Os na fydd y dyfarnydd yn rhoi unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (3) ond ei fod wedi ei fodloni bod rhesymau cryf, o dan amgylchiadau penodol yr achos, pam y dylid ad-dalu rhywfaint o'r symiau neu'r cyfan o'r symiau a dalwyd i sicrhau rhyddhau'r cerbyd, neu a ddidynnwyd o enillion y gwerthiant, caiff y dyfarnydd argymell bod yr awdurdod gorfodi yn gwneud y cyfryw ad-daliad.
(6) Bydd yn ddyletswydd ar awdurdod gorfodi y caiff argymhelliad ei gyflwyno iddo o dan baragraff (5) ystyried o'r newydd gwneud ad-daliad o'r symiau hynny gan roi ystyriaeth lawn i unrhyw sylwadaeth gan y dyfarnydd ac, o fewn y cyfnod o bymtheg ar hugain o ddiwrnodau (“y cyfnod o 35 o ddiwrnodau”) sy'n dechrau ar y dyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd, hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd p'un a yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd ai peidio.
(7) Os bydd yr awdurdod gorfodi yn hysbysu'r apelydd a'r dyfarnydd nad yw'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd, rhaid iddo ar yr un pryd eu hysbysu o'r rhesymau dros ei benderfyniad.
(8) Ni cheir apelio at y dyfarnydd yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi o dan baragraff (7).
(9) Os bydd yr awdurdod gorfodi'n derbyn argymhelliad y dyfarnydd, rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau.
(10) Os bydd yr awdurdod gorfodi yn methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (6) o fewn y cyfnod o 35 o ddiwrnodau, bernir bod yr awdurdod wedi derbyn argymhelliad y dyfarnydd a rhaid iddo wneud yr ad-daliad a argymhellwyd yn union ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
Y weithdrefn sydd i'w dilyn gan ddyfarnwyr, cyflwyno dogfennau ac adennill symiau sy'n daladwy
6.—(1) Bydd yr Atodlen i'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau (“yr Atodlen”) yn cael effaith o ran y weithdrefn a chyflwyno dogfennau mewn achosion gerbron dyfarnydd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai wedi cael ei hymgorffori yn y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraff (3).
(2) Yn unol â hynny, bernir y bydd cyfeiriadau yn yr Atodlen honno fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd paragraff (1) o'r Rheoliadau hyn yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hyn ac nid at y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.
(3) Dyma'r addasiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1)—
(a)ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “appeal” yn lle “regulation 7(1) or 10(1)” rhodder “regulation 5”;
(b)ym mharagraff 2(3), yn lle “regulation 7(1)(a) or 10(1)(a) (as the case may be)” rhodder “regulation 5(1)(a)”;
(c)ym mharagraff 4(1) yn lle “regulation 4(2)(b) or 8(4), whichever is appropriate in the circumstances” rhodder “regulation 3(4)”.
(4) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Atodlen honno fel y'i haddaswyd, caiff dyfarnydd reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
(5) Bydd unrhyw swm sy'n daladwy—
(a)o dan benderfyniad y dyfarnydd;
(b) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau Sylwadau ac Apelau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gorfodi ad-dalu unrhyw swm,
yn swm, os bydd llys sirol yn gorchymyn hynny, sydd i'w adennill gan y person y mae'r swm yn daladwy iddo fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys sirol.
(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys i dâl cosb sy'n parhau'n daladwy yn dilyn dyfarniad o dan reoliad 7 o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau.
Dirymu
7. Mae Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2008(5) drwy hyn wedi eu dirymu.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2013