xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 3141 (Cy. 314)

Addysg, Cymru

Gorchymyn y Cod Apelau Derbyn Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013

Gwnaed

10 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sydd bellach wedi ei freinio ynddynt hwy(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Apelau Derbyn Ysgol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2013.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwrnod Penodedig

2.  Y diwrnod a bennir fel y diwrnod y daw’r Cod Apelau Derbyn Ysgol (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 4 Hydref 2013) i rym yw 1 Ionawr 2014.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ionawr 2014 fel y diwrnod y daw’r Cod Apelau Derbyn Ysgol (“y Cod Apelau”) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 84 a 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“DSFfY 1998”) i rym. Mae’r Cod Apelau yn gymwys o ran Cymru.

Mae’r Cod Apelau yn disodli’r Cod Apelau Derbyn Ysgol a ddaeth i rym ar 15 Gorffennaf 2009. Mae’r Cod Apelau yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed i DSFfY 1998 ers y dyddiad hwnnw.

Mae’r Cod newydd yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer apelau mewn perthynas â derbyn i ysgolion. O dan adran 84(3) o DSFfY 1998, dyletswydd awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn a phaneli apêl, wrth arfer swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o DSFfY 1998, yw gweithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod. Yn ogystal, rhaid i unrhyw berson arall, wrth arfer unrhyw swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan y Bennod honno, weithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod.

Y prif newidiadau a gyflwynir gan y Cod yw:

(a)bod rhaid i awdurdodau derbyn sicrhau bod pob aelod o’r panel yn cael hyfforddiant bob tair blynedd;

(b)y caiff awdurdodau derbyn, wrth gynnal apelau, ddefnyddio eu hadeiladau eu hunain os oes angen ar yr amod eu bod o bellter addas o waith yr awdurdod derbyn; ac

(c)bod rhaid i aelodau’r panel ystyried a yw’r trefniadau derbyn yn cydymffurfio â Rhan 3 o DSFfY 1998 a’r Cod Derbyniadau Ysgol.

Daw’r Cod Apelau i rym ar 1 Ionawr 2014 ac mae’n gymwys i bob apêl y gwrandewir arni ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae Cod Apelau Derbyn Ysgol 2009 yn gymwys i apelau y gwrandewir arnynt cyn y dyddiad hwnnw.

(1)

1998 p.31. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).