xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 3048 (Cy. 307)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013

Gwnaed

3 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 86(1), 87 a 98 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a Chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2013.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment”) yw arolwg o’r galw ymhlith rhieni mewn ardal awdurdod lleol am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant yn unol ag adran 86(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “asesiadau” (“assessments”) yw—

(a)

unrhyw drefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) neu (3)(c) o Ddeddf 2002; a

(b)

unrhyw asesiad arall o ddisgyblion a wneir gan athrawon at ddiben canfod lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y Cwricwlwm Cenedlaethol;

ystyr “asesu” (“assessed”) yw asesu’n unol ag unrhyw drefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir o dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf 2002(2) mewn perthynas â’r disgyblion sydd yn y cyfnod sylfaen;

ystyr “blwyddyn asesu” (“assessment year”) yw’r flwyddyn ysgol y cafodd y disgyblion eu hasesu ynddi ac sy’n union cyn y flwyddyn ysgol gyfredol;

ystyr “canolfannau hwyrddyfodiaid” (“centres for latecomers”) yw canolfannau dysgu’r Gymraeg a sefydlir gan awdurdodau lleol i ddarparu gwersi Cymraeg dwys i ddisgyblion oedran ysgol gynradd ac uwchradd;

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw rai o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;

mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i’w ddehongli’n unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor ysgol wedi ei sefydlu yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005(3);

mae i “cymhwyster perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997(4);

ystyr “cynllun” (“plan”) yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg fel y’i disgrifir gan adran 85(1) o Ddeddf 2013;

ystyr “data perfformiad ysgol” (“school performance data”) yw unrhyw ddata sy’n ymwneud â pherfformiad disgyblion mewn arholiadau cyhoeddus a’r dyfarniad o gymwysterau perthnasol;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(6);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;

ystyr “dogfen Gymraeg” (“Welsh document”) yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 sy’n dwyn y teitl “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”(7) ac y cyfeirir ati yng Ngorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008(8);

ystyr “dyddiad cau asesiad addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education assessment closing date”) yw’r dyddiad a roddir gan awdurdod lleol yn unol â pharagraff (f) o Ran 2 o Atodlen 1 ar gyfer dychwelyd ymatebion i unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal;

ystyr “fforwm addysg cyfrwng Cymraeg” (“Welsh medium education forum”) yw corff a sefydlir gan awdurdod lleol er mwyn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg y mae ei aelodaeth yn cynnwys swyddogion awdurdod lleol a phersonau eraill y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn briodol;

ystyr “fforymau rhanbarthol 14-19” (“14-19 regional forums”) yw grŵp o gyrff a phersonau o fewn nifer o ardaloedd awdurdodau lleol sy’n gweithio ynghyd i geisio sicrhau bod personau 14 i 19 oed yn yr ardaloedd hynny yn cael budd o’r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael i bersonau 14 i 19 oed a ddisgrifir yng nghylchlythyr 37/2004 sy’n dwyn y teitl “Llwybrau Dysgu 14-19 Canllawiau”(9);

ystyr “rhaglen astudio Cymraeg” (“Welsh programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg’;

ystyr “rhaglen astudio Cymraeg ail iaith” (“Welsh second language programme of study”) yw’r rhaglen astudio y cyfeirir ati yn y rhan honno o’r ddogfen Gymraeg sy’n dwyn y teitl ‘Cymraeg ail iaith’; ac

ystyr “rhwydweithiau 14-19” (“14-19 networks”) yw grŵp o gyrff a phersonau o fewn ardal awdurdod lleol sy’n gweithio ynghyd i geisio sicrhau bod personau 14 i 19 oed yn yr ardal honno yn cael budd o’r ystod o opsiynau dysgu sydd ar gael i bersonau 14 i 19 oed a ddisgrifir yng nghylchlythyr 37/2004 sy’n dwyn y teitl “Llwybrau Dysgu 14-19 Canllawiau”.

Asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

3.—(1Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei ardal gyfan neu unrhyw ran o’i ardal y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arni.

(2Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg os—

(a)oes mwy na 50% o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn y rhan honno o’i ardal sy’n destun yr asesiad addysg cyfrwng Cymraeg, yn cael eu hasesu yn—

(i)maes dysgu datblygu’r Gymraeg ar y trydydd dydd Mawrth ym mis Ionawr yn y flwyddyn asesu; neu

(ii)maes dysgu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu drwy gyfrwng y Saesneg ar y trydydd dydd Mawrth ym mis Ionawr yn y flwyddyn asesu;

(b)nad yw’r awdurdod lleol wedi cynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei ardal gyfan yn y 3 blynedd yn union cyn y flwyddyn asesu; ac

(c)yw Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig fod rhaid iddo wneud hynny.

(3Rhaid i asesiad addysg cyfrwng Cymraeg gynnwys y cwestiynau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 a’r wybodaeth a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Cyfnod para’r cynllun

4.—(1Mae’r cynllun cyntaf yn cael effaith am y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2014 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2017.

(2Mae’r cynlluniau dilynol yn cael effaith am y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn pan fo’r cynllun blaenorol yn dod i ben.

Ffurf a chynnwys y cynllun

5.  Rhaid i bob cynllun gynnwys darpariaeth sy’n ymdrin â’r materion a nodir yn Atodlen 2 gyda’r wybodaeth ategol a nodir yn Atodlen 3.

Cyflwyno’r Cynllun i Weinidogion Cymru

6.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun cyntaf i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 20 Ionawr 2014.

(2Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno pob cynllun dilynol i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo heb fod yn hwyrach na 20 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y bydd y cynllun yn cael effaith ynddi.

Amseriad cyhoeddi’r cynllun

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun cyntaf heb fod yn hwyrach na 1 Mehefin 2014.

(2Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi pob cynllun dilynol (neu gynllun diwygiedig) heb fod yn hwyrach na 1 Mehefin yn y flwyddyn y mae’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) i gael effaith.

Dull cyhoeddi’r cynllun

8.  Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi’r cynllun (neu’r cynllun diwygiedig) drwy—

(a)ei roi ar wefan yr awdurdod lleol; a

(b)sicrhau bod copïau o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt yn—

(i)swyddfeydd yr awdurdod lleol; a

(ii)unrhyw le arall y mae’n ei ystyried yn briodol.

Ymgynghori

9.—(1Rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol ynghylch y cynllun drafft—

(a)Comisiynydd y Gymraeg (o fewn ystyr adran 2 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(10));

(b)Partneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (o fewn ystyr adran 119 o Ddeddf 1998(11));

(c)cynghorau ysgol;

(d)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)unrhyw sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn briodol; ac

(f)unrhyw bersonau neu gyrff eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

(2Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), dim ond y cyrff hynny sydd â buddiant yn ardal yr awdurdod lleol sy’n destun asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae rhaid ymgynghori â hwy.

(3Rhaid i’r awdurdod ymgynghori ynghylch y cynllun drafft am gyfnod heb fod yn llai nag wyth wythnos.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal yr ymgynghoriad drwy anfon drafft o’r cynllun at bob ymgynghorai gan wahodd sylwadau arno o fewn cyfnod a bennir gan yr awdurdod lleol.

(5Caniateir bodloni’r gofyniad ym mharagraff (4) i anfon copi drafft o’r cynllun at bob ymgynghorai drwy anfon copïau dros e-bost.

Adolygu’r cynllun

10.—(1Rhaid i’r awdurdod lleol heb fod yn hwyrach na 20 Rhagfyr bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2014—

(a)adolygu’r cynnydd a wneir gan yr awdurdod lleol yn erbyn y targedau a nodir yn y cynllun yn unol ag adran 84(1)(b) o Ddeddf 2013;

(b)cyflwyno unrhyw gynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2Wrth gynnal yr adolygiad hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n eu hystyried yn briodol.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

3 Rhagfyr 2013

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 1Cwestiynau a gwybodaeth i’w cynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

RHAN 1Cwestiynau i’w cynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

Rhif

Cwestiwn

1Sawl plentyn o dan 2 oed sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad ar hyn o bryd?
2Beth yw dyddiadau geni pob plentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad ar hyn o bryd ac sydd o dan 2 oed?
3

Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio pa mor debygol yr ydych chi o anfon unrhyw blentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg os yw’r ysgol honno yn fwy na 2 filltir o’ch cartref—

(a)

tebygol iawn;

(b)

eithaf tebygol;

(c)

tebygol;

(d)

annhebygol;

(e)

eithaf annhebygol; neu

(f)

annhebygol iawn.

4

Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio pa mor debygol yr ydych chi o anfon plentyn sy’n byw’n llawnamser neu’n rhan-amser yn eich cyfeiriad i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg os yw’r ysgol honno o fewn 2 filltir i’ch cartref—

(a)

tebygol iawn;

(b)

eithaf tebygol;

(c)

tebygol;

(d)

annhebygol;

(e)

eithaf annhebygol; neu

(f)

annhebygol iawn.

5

Pa un o’r datganiadau canlynol sydd orau i ddisgrifio beth sydd, yn eich barn chi, yn amser teithio derbyniol rhwng eich cartref ac ysgol cyfrwng Cymraeg ar fws—

(a)

llai na 10 munud;

(b)

rhwng 10 munud ac 20 munud;

(c)

rhwng 20 munud a 30 munud;

(d)

rhwng 30 munud a 45 munud;

(e)

rhwng 45 munud a 60 munud; neu

(f)

mwy na 60 munud.

6Beth yw eich cod post?

RHAN 2Gwybodaeth i’w chynnwys mewn asesiad addysg cyfrwng Cymraeg

Rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg—

(a)datganiad cryno o ddiben yr asesiad addysg cyfrwng Cymraeg;

(b)datganiad bod addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i blant Cymraeg a di-Gymraeg;

(c)enwau a chyfeiriadau ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg;

(d)disgrifiad o faint o addysgu sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un o’r ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal yr awdurdod lleol;

(e)esboniad cryno o’r cyfleoedd i ddisgyblion drosglwyddo o ysgolion cynradd a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg; ac

(f)dyddiad cau’r asesiad addysg cyfrwng Cymraeg.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Materion i ymdrin â hwy mewn cynllun

1.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn cynyddu nifer y plant 7 oed sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

2.  Datganiad yn nodi’r dulliau i’w defnyddio gan yr awdurdod lleol i asesu’r galw am ofal plant cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal.

3.  Datganiad yn nodi’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd cyn pen 24 wythnos ar ôl dyddiad cau’r asesiad addysg cyfrwng Cymraeg i ateb y galw yn ei ardal am ofal plant cyfrwng Cymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg a nodir mewn unrhyw asesiad y mae wedi ei gynnal.

4.  Datganiad yn nodi strategaethau’r awdurdod lleol o ran sut y bydd unrhyw geisiadau y bydd yn eu gwneud am gyllid grant gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwariant ar ysgolion a gynhelir yn ei ardal yn rhoi ystyriaeth i’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg a ganfuwyd mewn unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal.

5.  Datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn cydweithio ag awdurdodau lleol eraill i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg a ganfuwyd mewn unrhyw asesiad addysg cyfrwng Cymraeg y mae wedi ei gynnal.

6.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol i gynyddu’r cyfleoedd i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy gymryd rhan mewn addysg cyfrwng Cymraeg ddwys a thrwy gynyddu mynediad i ganolfannau hwyrddyfodiaid.

7.  Datganiad yn nodi a fydd yr awdurdod lleol yn sefydlu fforwm addysg cyfrwng Cymraeg.

8.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn ceisio sicrhau bod adnoddau ariannol digonol ar gael i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg i blant hyd at 7 oed.

9.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer rhoi gwybodaeth i rieni o ran argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg a’r math o addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

10.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer cynyddu canran y disgyblion sydd yn y flwyddyn olaf o’r trydydd cyfnod allweddol ac sy’n dilyn y rhan honno o’r rhaglen astudio sy’n dwyn y teitl “Cymraeg” ac a nodir yn y ddogfen Gymraeg.

11.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer sicrhau parhad addysg cyfrwng Cymraeg pan fydd plant yn trosglwyddo o—

(a)addysg feithrin a ariennir ond nas cynhelir i addysg feithrin a ariennir;

(b)y cyfnod sylfaen i’r ail gyfnod allweddol;

(c)yr ail gyfnod allweddol i’r trydydd cyfnod allweddol; a

(d)y trydydd cyfnod allweddol i’r pedwerydd cyfnod allweddol.

12.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer cynyddu faint o addysg cyfrwng Cymraeg a ddarperir mewn unrhyw ysgolion a gynhelir ganddo sy’n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

13.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer cynyddu canran y plant 15 oed a throsodd sy’n astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.

14.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn cyflawni ei ddyletswydd yn adran 116B o Ddeddf 2002(12).

15.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gweithio drwy rwydweithiau 14-19 a fforymau rhanbarthol 14-19 i gynnal a gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg yn ei ardal ar gyfer personau 14 i 19 oed.

16.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn casglu ac yn defnyddio data perfformiad ysgol i wella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg i bersonau 14 i 19 oed.

17.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

18.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg, a safonau addysg cyfrwng Cymraeg, i’r disgyblion hynny sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg.

19.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg, a safonau addysg cyfrwng Cymraeg, i’r disgyblion hynny sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith.

20.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn cynyddu’r cyfleoedd i ddisgyblion siarad Cymraeg ac eithrio fel rhan o’r addysg cyfrwng Cymraeg ffurfiol a ddarperir gan ysgol.

21.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion y mae angen cymorth dysgu ychwanegol arnynt sy’n deillio o unrhyw anhawster y mae y disgybl yn ei gael wrth ddysgu mewn perthynas â disgyblion eraill sydd o’r un oedran nad ydynt yn cael unrhyw anhawster wrth ddysgu.

22.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer sicrhau bod digon o staff addysgu i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

23.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella sgiliau iaith Cymraeg yr ymarferwyr hynny mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

24.  Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod lleol o ran sut y bydd yn gwella sgiliau addysgu’r ymarferwyr hynny sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir yn ei ardal.

25.  Datganiad yn nodi sut bydd yr awdurdod lleol yn sicrhau bod y strategaethau y mae’n eu mabwysiadu i wella safonau addysgol ysgolion a gynhelir yn rhoi ystyriaeth lawn i’r cynllun.

Rheoliad 5

ATODLEN 3Gwybodaeth ategol

1.  Nifer y plant sy’n mynychu—

(a)meithrinfeydd a ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118 o Ddeddf 1998 ac sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg; a

(b)meithrinfeydd nas ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118A o Ddeddf 1998 ac nad ydynt yn addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg.

2.  Canran y disgyblion sy’n trosglwyddo i ysgolion cyfrwng Cymraeg a gynhelir a oedd yn mynychu—

(a)meithrinfeydd a ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118 o Ddeddf 1998 ac sy’n addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg; a

(b)meithrinfeydd nas ariennir gan yr awdurdod lleol y maent wedi eu lleoli ynddo yn unol â’i ddyletswydd yn adran 118A o Ddeddf 1998 ac nad ydynt yn addysgu’r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg.

3.  Canran y disgyblion sy’n mynychu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a gynhelir sy’n trosglwyddo i ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a gynhelir.

4.  Mewn perthynas â disgyblion sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a’r pedwerydd cyfnod allweddol—

(a)canlyniadau asesiadau’r disgyblion hynny; a

(b)unrhyw gymwysterau perthnasol a ddyfarnwyd i’r disgyblion hynny.

5.  Mewn perthynas â disgyblion sy’n dilyn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a’r pedwerydd cyfnod allweddol—

(a)canlyniadau asesiadau’r disgyblion hynny; a

(b)unrhyw gymwysterau perthnasol a ddyfarnwyd i’r disgyblion hynny.

6.  Nifer a chanran y disgyblion sydd wedi eu—

(a)cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol yn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith;

(b)heb eu cofrestru ar gyfer cymhwyster perthnasol yn y rhaglen astudio Cymraeg ail iaith.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg (“Cynllun”). Mae adran 85 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ei Gynllun drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo cyn i’r Cynllun hwnnw gael ei gyhoeddi. Mae adran 86 o Ddeddf 2013 yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad o’r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 87 a 98 o Ddeddf 2013. Maent yn darparu ar gyfer y materion a ganlyn:

(a)yr amgylchiadau y bydd yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ynddynt (rheoliad 3) a’r cwestiynau a’r wybodaeth i’w cynnwys yn yr asesiad hwnnw (Atodlen 1);

(b)cyfnod para’r cynllun (rheoliad 4);

(c)ffurf a chynnwys y cynllun (rheoliad 5 ac Atodlenni 2 a 3);

(d)y dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo (rheoliad 6);

(e)y dyddiad y mae rhaid cyhoeddi’r cynllun arno (rheoliad 7);

(f)dull cyhoeddi cynllun yr awdurdod lleol (rheoliad 8);

(g)y personau a’r cyrff y mae rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy ynghylch y cynllun drafft (rheoliad 9); a

(h)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid adolygu’r cynllun ac â phwy y mae rhaid ymgynghori (rheoliad 10).

(2)

Y gorchymyn presennol yw Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Diwedd y Cyfnod Sylfaen a Dirymu Trefniadau Asesu’r Cyfnod Allweddol Cyntaf) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1948 (Cy. 214)).

(6)

2002 p.32, fel y’i diwygiwyd gan adran 21(1) a (7)(a) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5).

(7)

Rhif ISBN 9780750444187.

(9)

Cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2004 (Rhif ISBN 0750434201).

(11)

1998 p.31, fel y’i diwygiwyd gan baragraff 10(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158) a chan baragraff 30(a) a (b) o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006.

(12)

Mewnosodwyd gan adran 5 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).