32. Unrhyw daliad, a wnaed i’r ceisydd neu bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”), nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond sydd yng ngofal y ceisydd dros dro, gan—
(a)awdurdod iechyd;
(b)awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wnaed mewn perthynas â’r person dan sylw;
(c)sefydliad gwirfoddol;
(d)y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1);
(e)ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(2) neu a sefydlwyd drwy orchymyn a wnaed o dan adran 18(2)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(3); neu
(f)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4).