ATODLEN 9Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

32

Unrhyw daliad, a wnaed i’r ceisydd neu bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”), nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond sydd yng ngofal y ceisydd dros dro, gan—

a

awdurdod iechyd;

b

awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wnaed mewn perthynas â’r person dan sylw;

c

sefydliad gwirfoddol;

d

y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948289;

e

ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977290 neu a sefydlwyd drwy orchymyn a wnaed o dan adran 18(2)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006291; neu

f

Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006292.