xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 33(2)

ATODLEN 9Symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr

1.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw ofal plant, teithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Peilot Gweithio Am Eich Budd-dal.

2.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Gweithgaredd Gwaith Gorfodol.

3.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter.

4.  Unrhyw swm a dalwyd ar gyfer treth ar incwm sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan baragraff 17 o Atodlen 6 (cyfrifo incwm ac eithrio enillion).

5.  Unrhyw daliad mewn perthynas ag unrhyw dreuliau a dynnwyd neu sydd i’w tynnu gan geisydd—

(a)a gymerwyd ymlaen gan sefydliad elusennol neu wirfoddol, neu

(b)sy’n wirfoddolwr,

os nad yw’r ceisydd hwnnw, fel arall, yn cael unrhyw gydnabyddiaeth ariannol neu elw o’r gyflogaeth ac na thrinnir ef fel pe bai’n meddu unrhyw enillion o dan baragraff 19(5) o Atodlen 6 (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

6.  Unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau sy’n deillio o gyfranogiad y ceisydd mewn grŵp defnyddwyr gwasanaeth.

7.  Yn achos cyflogaeth fel enillydd cyflogedig, unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau a dynnir yn gyfan gwbl, yn unig ac yn angenrheidiol wrth gyflawni dyletswyddau’r gyflogaeth.

8.  Pan fo ceisydd yn cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.

9.  Pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl cyd-hawliad yn yr ystyr o “joint-claim couple” at ddibenion Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 a phartner y ceisydd yn cael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, y cyfan o incwm y ceisydd.

10.  Os oedd gan y ceisydd, neu’r person a oedd yn bartner y ceisydd ar 31 Mawrth 2003, yr hawl, ar y dyddiad hwnnw i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm, ond daeth yr hawl honno i ben ar neu cyn 5 Ebrill 2003 yn rhinwedd, yn unig, rheoliad 13 o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) Diwygio (Rhif 3) 1999(1) fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw, y cyfan o incwm y ceisydd.

11.  Unrhyw lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA.

12.  Unrhyw daliad consesiynol a wnaed i ddigolledu oherwydd methiant i dalu—

(a)unrhyw daliad a bennir ym mharagraff 11 neu 14;

(b)cymhorthdal incwm;

(c)lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(d)lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm.

13.  Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(2) (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(3) neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.

14.  Unrhyw lwfans gweini.

15.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd fel deiliad Croes Fictoria neu Groes Siôr neu unrhyw daliad cyfatebol.

16.—(1Unrhyw daliad—

(a)ar ffurf lwfans cynhaliaeth addysg a wnaed yn unol ag—

(i)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996(4) (talu treuliau ysgol; dyfarnu ysgoloriaethau etc);

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 neu 73(f) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(5) (pŵer i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysg);

(iii)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992(6);

(b)cyfatebol i lwfans cynhaliaeth addysg o’r fath, a wnaed yn unol ag—

(i)adran 14 neu adran 181 o Ddeddf Addysg 2002(7) (pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol at ddibenion sy’n ymwneud ag addysg neu ofal plant, a lwfansau mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant); neu

(ii)rheoliadau a wnaed o dan adran 181 o’r Ddeddf honno; neu

(c)yng Nghymru a Lloegr, ar ffurf cymorth ariannol a wnaed yn unol ag adran 14 o Ddeddf Addysg 2002.

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1) yn gymwys iddo, a wnaed yn unol ag—

(a)rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996;

(b)rheoliadau a wnaed o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980; neu

(c)cyfarwyddiadau a wnaed o dan adran 73ZA o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 ac a dalwyd o dan adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992,

mewn perthynas â chwrs astudio a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc neu berson sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg neu daliad arall a wnaed yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a bennir yn is-baragraff (1).

17.  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd ar ffurf ad-daliad o dan reoliad 11(2) o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyriwr Athrawon) (Ad-dalu etc) 2003(8).

18.—(1Unrhyw daliad a wnaed yn unol ag adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(9) neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990(10) ac eithrio—

(a)taliad a wnaed yn lle cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith, budd-dal analluogrwydd, lwfans anabledd difrifol neu lwfans cyflogaeth a chymorth;

(b)taliad o lwfans y cyfeirir ato yn adran 2(3) o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2(5) o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990; neu

(c)taliad y bwriedir iddo ddiwallu’r costau byw sy’n ymwneud ag un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2) tra bo ceisydd yn ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu gynllun arall i helpu’r ceisydd i wella’i ragolygon cyflogaeth, oni bai bod y taliad yn Fenthyciad Datblygu Gyrfa a delir yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1973, a chyfnod yr addysg neu hyfforddiant neu’r cynllun, a gynorthwyir gan y benthyciad hwnnw, wedi ei gwblhau.

(2Yr eitemau a bennir yn yr is-baragraff hwn at ddibenion is-baragraff (1)(c) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

19.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw rai o’r taliadau canlynol—

(a)taliad elusennol;

(b)taliad gwirfoddol;

(c)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a wnaed gan ymddiriedolaeth y mae ei chyllid yn deillio o daliad a wnaed o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd;

(d)taliad o dan flwydd-dal a brynwyd—

(i)yn unol ag unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd; neu

(ii)o gyllid sy’n deillio o daliad a wnaed,

o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd; neu

(e)taliad (nad yw’n dod o fewn paragraffau (a) i (d)) a dderbyniwyd yn rhinwedd unrhyw gytundeb neu orchymyn llys i wneud taliadau i’r ceisydd o ganlyniad i unrhyw niwed personol i’r ceisydd.

(2Rhaid peidio â chymhwyso is-baragraff (1) i daliad a wnaed neu sy’n ddyladwy gan—

(a)cyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner unrhyw aelod o deulu’r ceisydd; neu

(b)rhiant plentyn neu berson ifanc pan fo’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw’n aelod o deulu’r ceisydd.

20.  Yn ddarostyngedig i baragraff 40, £10 o unrhyw rai o’r canlynol, sef—

(a)pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y diystyrir pensiwn o’r fath o dan baragraff 13 neu 14);

(b)pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;

(c)pensiwn sy’n daladwy i berson sy’n wraig neu ŵr gweddw neu’n bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw un o bwerau Ei Mawrhydi ac eithrio deddfiad, i wneud darpariaeth ynghylch pensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;

(d)taliad incwm gwarantedig, ac os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau islaw £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011(11), cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrir, yn fwy na £10;

(e)taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad o’r fath a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;

(f)pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;

(g)pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.

21.  Yn ddarostyngedig i baragraff 40, £15 o unrhyw—

(a)lwfans mam weddw a dalwyd yn unol ag adran 37 o DCBNC;

(b)lwfans rhiant gweddw a dalwyd yn unol ag adran 39A o DCBNC.

22.—(1Unrhyw incwm sy’n deillio o gyfalaf y mae gan y ceisydd fuddiant llesiannol ynddo, neu y trinnir y ceisydd o dan baragraff 32 o Atodlen 6 (cyfalaf a ddelir ar y cyd) fel pe bai ganddo fuddiant llesiannol ynddo ond, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nid incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 4, 5, 7, 11, 17 neu 30 i 33 o Atodlen 10.

(2Incwm sy’n deillio o gyfalaf a ddiystyrir o dan baragraffau 5, 7 neu 30 i 33 o Atodlen 10, ond i’r graddau canlynol yn unig—

(a)unrhyw ad-daliadau morgais a wneir mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni; neu

(b)unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd yn atebol i’w thalu neu i’w talu mewn perthynas â’r annedd neu’r fangre ac a delir yn y cyfnod pan oedd yr incwm hwnnw’n cronni.

(3Mae’r diffiniad o “taliadau dŵr” (“water charges”) yn rheoliad 2(1) yn gymwys i is-baragraff (2) o’r paragraff hwn gan hepgor y geiriau “, i’r graddau y mae a wnelo’r cyfryw daliadau â’r annedd a feddiennir gan berson fel ei gartref”.

23.  Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—

(a)o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(12), dyfarniad y myfyriwr hwnnw;

(b)o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(13), bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu

(c)benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,

swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.

24.—(1Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—

(a)ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu

(b)yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,

a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 23, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.

(2At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—

(a)swm wythnosol y taliadau; neu

(b)y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b),

pa un bynnag yw’r lleiaf.

25.  Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd gan blentyn neu berson ifanc neu annibynnydd.

26.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref a pherson arall, nad yw’n berson y cyfeirir ato ym mharagraff 25 neu 27 hefyd yn meddiannu’r annedd honno, a rhwymedigaeth dan gontract i wneud taliadau i’r ceisydd mewn perthynas â meddiannu’r annedd gan y person arall hwnnw neu aelod o’i deulu—

(a)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â meddiannu’r annedd, gan y person hwnnw neu aelod o’i deulu, neu gan y person hwnnw ac aelod o’i deulu, yn llai nag £20, y cyfan o’r swm hwnnw; neu

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn £20 neu’n fwy yr wythnos, £20.

27.  Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—

(a)pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau;

(b)pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.

28.—(1Unrhyw incwm mewn nwyddau neu wasanaethau, ac eithrio pan fo paragraff 17(10)(b) o Atodlen 6 (darpariaeth o gymorth o dan adran 95 neu 98 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(14) wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion) yn gymwys.

(2Nid yw’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at “incwm mewn nwyddau neu wasanaethau” (“income in kind”) yn cynnwys taliad a wneir i drydydd parti mewn perthynas â’r ceisydd ac a ddefnyddir gan y trydydd parti i ddarparu buddion ar ffurf nwyddau neu wasanaethau i’r ceisydd.

29.  Unrhyw incwm sy’n daladwy mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod y cyfryw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.

30.—(1Unrhyw daliad a wneir i’r ceisydd mewn perthynas â pherson sy’n aelod o deulu’r ceisydd—

(a)yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(15) neu’n unol â chynllun a gymeradwywyd gan Weinidogion yr Alban o dan adran 71 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(16) (cynlluniau lwfansau mabwysiadu);

(b)sy’n daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 15(1) o Ddeddf Plant 1989(17) a pharagraff 15 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno (cyfraniad awdurdod lleol at gynhaliaeth plentyn pan fo’r plentyn yn byw gyda pherson o ganlyniad i orchymyn preswylio) neu, yn yr Alban, adran 50 o Ddeddf Plant 1975(18) (taliadau tuag at gynhaliaeth plant);

(c)sy’n daliad a wneir gan awdurdod, fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(19), yn unol ag erthygl 15 o’r Gorchymyn hwnnw a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo (cyfraniad gan awdurdod at gynhaliaeth plentyn);

(d)yn unol â rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig).

(2Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (1)(a) yn gymwys iddo, a wnaed i’r ceisydd yn unol â rheoliadau o dan adran 2(6)(b), 3 neu 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

31.  Unrhyw daliad a wnaed i geisydd y lletywyd person gydag ef yn rhinwedd trefniadau a wnaed—

(a)gan awdurdod lleol o dan—

(i)adran 23(2)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety a chynhaliaeth ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal ganddynt),

(ii)adran 26 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(20) (dull o ddarparu llety i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol), neu

(iii)rheoliad 33 neu 51 o Reoliadau Plant sy’n Derbyn Gofal (Yr Alban) 2009(21) (lwfansau maethu a gofal gan berthynas a lwfansau maethu); neu

(b)gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59(1)(a) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety gan sefydliadau gwirfoddol).

32.  Unrhyw daliad, a wnaed i’r ceisydd neu bartner y ceisydd ar gyfer person (“y person dan sylw”), nad yw fel arfer yn aelod o aelwyd y ceisydd ond sydd yng ngofal y ceisydd dros dro, gan—

(a)awdurdod iechyd;

(b)awdurdod lleol, ond gan eithrio taliadau o fudd-dal tai a wnaed mewn perthynas â’r person dan sylw;

(c)sefydliad gwirfoddol;

(d)y person dan sylw yn unol ag adran 26(3A) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(22);

(e)ymddiriedolaeth gofal sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(23) neu a sefydlwyd drwy orchymyn a wnaed o dan adran 18(2)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(24); neu

(f)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(25).

33.  Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989(26) neu, yn ôl fel y digwydd, adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 neu adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd a chyngor a chymorth i blant penodol).

34.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol yn unol ag adran 23C o Ddeddf Plant 1989 neu adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 (dyletswydd awdurdodau lleol i hyrwyddo lles plant a phwerau i roi cymorth ariannol i bersonau sydd, neu a fu, yn eu gofal) i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys ac eithrio pan fo A—

(a)wedi bod gynt yng ngofal y ceisydd, a

(b)yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac

(c)yn parhau i fyw gyda’r ceisydd.

35.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad a gafwyd o dan bolisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag y risg o fod yn analluog i gynnal yr ad-daliadau—

(a)ar fenthyciad a sicrhawyd ar yr annedd a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd; neu

(b)o dan gytundeb rheoleiddiedig yn yr ystyr o “regulated agreement” fel y’i diffinnir at ddibenion Deddf Credyd Defnyddwyr 1974(27) neu o dan gytundeb hurbwrcas neu gytundeb gwerthiant amodol yn yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “hire-purchase agreement” a “conditional sale agreement” fel y’u diffinnir at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Hurbwrcas 1964(28).

(2Ni chaniateir diystyru taliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) ac eithrio i’r graddau nad yw’r taliad a gafwyd o dan y polisi hwnnw yn fwy na’r symiau, a gyfrifir ar sail wythnosol, a ddefnyddir i—

(a)cynnal yr ad-daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, (1)(b); a

(b)talu unrhyw swm sy’n ddyladwy ar ffurf premiymau ar—

(i)y polisi hwnnw; neu

(ii)mewn achos pan fo is-baragraff (1)(a) yn gymwys, polisi yswiriant a drefnwyd i yswirio rhag colled neu ddifrod i unrhyw adeilad, neu ran o adeilad, a feddiennir gan y ceisydd fel cartref y ceisydd, ac sy’n ofynnol fel amod o’r benthyciad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a).

36.  Unrhyw daliad o incwm sydd i’w drin fel cyfalaf yn rhinwedd paragraff 27 o Atodlen 6 (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).

37.  Unrhyw—

(a)taliad cronfa gymdeithasol a wnaed yn unol â Rhan 8 o DCBNC ( y gronfa gymdeithasol); neu

(b)cymorth achlysurol.

38.  Unrhyw daliad o dan Ran 10 o DCBNC (bonws Nadolig i bensiynwyr).

39.  Pan wneir taliad o incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi’r taliad hwnnw i sterling.

40.  Ni chaiff y cyfanswm o incwm ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, incwm y teulu ac incwm unrhyw berson y trinnir y ceisydd hwnnw fel pe bai’n ei feddu o dan baragraff 7(3) o Atodlen 6 (cyfrifo incwm a chyfalaf aelodau o deulu ceisydd ac o briodas amlbriod) sydd i’w ddiystyru o dan baragraff 5(2)(b) a pharagraff 6(1)(d) o Atodlen 11 (cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad, incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad), paragraff 9(2) o Atodlen 11 (trin benthyciadau myfyriwr), paragraff 11(3) o Atodlen 11 (trin taliadau o gronfeydd mynediad) a pharagraffau 20 ac 21, mewn unrhyw achos fod yn fwy nag £20 yr wythnos.

41.—(1Unrhyw daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau, y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, neu’r Gronfa Byw’n Annibynnol (2006).

(2Unrhyw daliad gan neu ar ran person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)partner neu gyn-bartner y person hwnnw nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrth y person hwnnw, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, neu a ffurfiodd bartneriaeth sifil gyda’r person hwnnw, nad yw wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r person hwnnw, nad oedd wedi ei diddymu pan fu farw;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(3Unrhyw daliad gan neu ar ran partner neu gyn-bartner person sy’n dioddef neu a fu’n dioddef o haemoffilia, neu sydd neu a oedd yn berson cymwys, ar yr amod nad yw’r partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ymwahanu neu ysgaru, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oeddent wedi ymwahanu neu ysgaru neu, os oedd y partner neu gyn-bartner a’r person hwnnw wedi ffurfio partneriaeth sifil, nad yw’r bartneriaeth sifil wedi ei diddymu, neu, os bu farw’r naill neu’r llall ohonynt, nad oedd wedi ei diddymu ar yr adeg y digwyddodd y farwolaeth, sy’n deillio o daliad a wnaed o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac a wneir i, neu er budd—

(a)y person sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys;

(b)unrhyw blentyn sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd; neu

(c)unrhyw berson ifanc sy’n aelod o deulu’r person hwnnw neu a oedd yn aelod o’r fath ac sydd yn aelod o deulu’r ceisydd.

(4Unrhyw daliad gan berson sy’n dioddef o haemoffilia neu sy’n berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oes gan y person hwnnw bartner na chyn-bartner nad yw wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb y ffurfiodd bartneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd, neu a fu, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad i naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os yw’r person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y taliad, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad yw wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oes gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am y cyfnod, yn unig, o’r dyddiad y gwneir y taliad hyd at ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth y person hwnnw.

(5Unrhyw daliad allan o ystad person a oedd yn dioddef o haemoffilia neu a oedd yn berson cymwys, a’r taliad yn deillio o daliad o dan neu gan unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1), pan—

(a)nad oedd gan y person hwnnw, ar ddyddiad ei farwolaeth (y dyddiad perthnasol) bartner na chyn-bartner nad oedd wedi ymwahanu neu ysgaru oddi wrtho, na neb yr oedd wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef ac na ddiddymwyd y bartneriaeth honno, nac unrhyw blentyn neu berson ifanc a oedd, neu a oedd wedi bod, yn aelod o deulu’r person hwnnw; a

(b)gwneir y taliad naill ai—

(i)i riant neu lys-riant y person hwnnw; neu

(ii)os oedd y person hwnnw, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn neu’n berson ifanc neu’n fyfyriwr nad oedd wedi cwblhau ei addysg amser llawn ac nad oedd gan y person hwnnw riant neu lys-riant, i warcheidwad y person hwnnw,

ond hynny am gyfnod, yn unig, o ddwy flynedd o’r dyddiad perthnasol.

(6Yn achos person y gwneir taliad, y cyfeirir ato yn y paragraff hwn, iddo neu er ei fudd, unrhyw incwm sy’n deillio o unrhyw daliad o incwm neu gyfalaf a wneir o dan, neu sy’n deillio o, unrhyw un o’r Ymddiriedolaethau.

(7At ddibenion is-baragraffau (2) i (6), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at yr Ymddiriedolaethau fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at y Gronfa, Ymddiriedolaeth Eileen, MFET Limited, Cronfa Skipton, Sefydliad Caxton, a Chronfa Cymorth Elusennol Bomiau Llundain.

42.  Unrhyw fudd-dal tai.

43.  Unrhyw daliad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddigolledu am golli (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yr hawlogaeth i gael budd-dal tai.

44.  Unrhyw daliad i reithiwr neu dyst mewn perthynas â phresenoldeb mewn llys, ac eithrio digollediad am golli enillion neu golli budd-dal sy’n daladwy o dan y Deddfau budd-dal.

45.  Unrhyw daliad o ganlyniad i ostyngiad yn y dreth gyngor o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992 (gostyngiad atebolrwydd am dreth gyngor).

46.—(1Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir—

(a)o ran Lloegr, o dan reoliad 5, 6 neu 12 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 2003(29) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(b)o ran Cymru, o dan reoliad 5, 6 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(30) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd);

(c)o ran yr Alban, o dan reoliad 3, 5 neu 11 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Yr Alban) (Rhif 2) 2003(31) (treuliau teithio a chyflenwadau gwasanaeth iechyd).

(2Unrhyw daliad neu ad-daliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Gweinidogion yr Alban neu Weinidogion Cymru sy’n gyfatebol i daliad neu ad-daliad a grybwyllir yn is-baragraff (1).

47.  Unrhyw daliad a wneir i’r cyfryw bersonau sydd â hawl i gael buddion fel y penderfynir gan neu o dan gynllun a wnaed yn unol ag adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988(32) yn lle talebau neu drefniadau cyffelyb mewn cysylltiad â darparu’r buddion hynny (gan gynnwys taliadau a wneir yn lle talebau cychwyn iach, talebau llaeth neu gyflenwi fitaminau).

48.  Unrhyw daliad a wneir gan naill ai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder neu Weinidogion yr Alban o dan gynllun a sefydlwyd i gynorthwyo perthnasau a phersonau eraill i ymweld â phersonau a gedwir yn y ddalfa.

49.—(1Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, ac eithrio cynhaliaeth plant, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan gyn-bartner y ceisydd, neu gyn-bartner partner y ceisydd.

(2At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.

(3At ddibenion is-baragraff (1) rhaid trin taliad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn lle cynhaliaeth fel pe bai’n daliad o gynhaliaeth a wnaed gan berson a bennir yn is-baragraff (1).

50.—(1Unrhyw daliad o gynhaliaeth plant a wneir gan, neu sy’n deillio o, berthynas atebol pan fo’r plentyn neu berson ifanc y gwneir y taliad mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd, ac eithrio pan wneir y taliad gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.

(2Yn is-baragraff (1)—

ystyr “cynhaliaeth plant” (“child maintenance”) yw unrhyw daliad tuag at gynhaliaeth plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys unrhyw daliad a wneir yn wirfoddol a thaliadau a wneir o dan—

(a)

Deddf Cynnal Plant 1991(33);

(b)

Gorchymyn Cynnal Plant (Gogledd Iwerddon) 1991(34);

(c)

gorchymyn llys;

(d)

gorchymyn cydsynio;

(e)

cytundeb cynhaliaeth a gofrestrwyd ar gyfer ei weithredu yn Llyfrau’r Cyngor a’r Sesiwn neu yn llyfrau’r llysoedd siryf;

ystyr “perthynas atebol” (“liable relative”) yw person a restrir yn y diffiniad o “liable relative” yn rheoliad 54 (dehongli) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(35), ac eithrio person sy’n dod o fewn is-baragraff (d) o’r diffiniad hwnnw.

51.  Unrhyw daliad (ac eithrio lwfans hyfforddi) a wneir, boed gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson arall, o dan Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1944(36) i gynorthwyo personau anabl i gael neu gadw cyflogaeth er gwaethaf eu hanabledd.

52.  Unrhyw lwfans gwarcheidwad.

53.—(1Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw fudd-dal o dan Ran 2, 3 neu 5 o DCBNC, unrhyw gynnydd yng nghyfradd y budd-dal hwnnw sy’n digwydd o dan Ran 4 (cynnydd ar gyfer dibynyddion) neu adran 106(a) (atodiad i’r anghyflogadwy) o’r Ddeddf honno, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.

(2Os yw’r ceisydd yn cael unrhyw bensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006(37), unrhyw gynnydd yng nghyfradd y pensiwn neu lwfans hwnnw o dan y Gorchymyn hwnnw, pan nad yw’r dibynnydd y telir y cynnydd mewn perthynas ag ef yn aelod o deulu’r ceisydd.

54.  Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad yw’n berson sydd â hawl o dan y Gorchymyn hwnnw.

55.  Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983(38) (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.

56.—(1Unrhyw daliad—

(a)a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—

(i)yr oedd ei farwolaeth i’w phriodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a

(ii)y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a

(b)yn hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.

(2Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).

57.  Unrhyw ostyngiad o dan gynllun awdurdod y mae hawl gan y ceisydd i’w gael.

58.  Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan is-baragraff (1) o baragraff 18 o Atodlen 8, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.

59.  Unrhyw daliad a wneir o dan adran 12B o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(39), neu o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd) neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(40) (taliadau uniongyrchol).

60.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), mewn perthynas â pherson sy’n cael, neu sydd wedi cael, cymorth o dan y llwybr hunangyflogaeth, unrhyw daliad i’r person hwnnw—

(a)i dalu treuliau a dynnwyd yn gyfan gwbl ac yn angenrheidiol tra’n ymgymryd â’r gweithgaredd masnachol;

(b)a ddefnyddiwyd, neu a fwriadwyd i’w ddefnyddio, i gynnal ad-daliadau ar fenthyciad a gymerwyd gan y person hwnnw at y diben o sefydlu neu gyflawni’r gweithgaredd masnachol,

y ceir neu y cafwyd cymorth o’r fath mewn perthynas ag ef.

(2Mae is-baragraff (1) yn gymwys yn unig mewn perthynas â thaliadau a delir i’r person hwnnw allan o’r cyfrif arbennig.

61.—(1Unrhyw daliad o ddyfarniad chwaraeon ac eithrio i’r graddau y’i gwnaed mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r eitemau a bennir yn is-baragraff (2).

(2Yr eitemau a bennir at ddibenion is-baragraff (1) yw bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd cartref neu rent y ceisydd neu, os yw’r ceisydd yn aelod o deulu, unrhyw aelod arall o deulu’r ceisydd, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu’r aelod hwnnw’n atebol amdanynt.

(3At ddibenion is-baragraff (2) nid yw “bwyd” (“food”) yn cynnwys fitaminau, mwynau neu atchwanegiadau dietegol arbennig eraill a fwriedir ar gyfer gwella perfformiad y person yn y gamp y gwnaed y dyfarniad mewn perthynas â hi.

62.  Pan fo swm y lwfans cynhaliaeth a delir i berson mewn wythnos ostyngiad yn fwy na swm y lwfans ceisio gwaith ar sail incwm y byddai’r person hwnnw wedi ei gael yn yr wythnos ostyngiad pe bai wedi bod yn daladwy i’r person hwnnw llai 50c, y swm dros ben hwnnw.

63.  Yn achos ceisydd sy’n cymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogaeth, unrhyw daliad disgresiynol a wneir gan gontractwr parth cyflogaeth i’r ceisydd, boed ar ffurf ffi, grant, benthyciad neu rywfodd arall.

64.  Unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001(41).

65.  Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol neu gan Weinidogion Cymru, i neu ar ran y ceisydd neu bartner y ceisydd mewn perthynas â gwasanaeth a ddarperir i ddatblygu neu gynnal gallu’r ceisydd neu bartner y ceisydd i fyw’n annibynnol yn llety’r ceisydd.

66.  Unrhyw daliad o fudd-dal plant.