ATODLEN 7Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr

RHAN 3Premiymau

Premiwm anabledd difrifol11

1

Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.

2

At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—

a

yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—

i

yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

ii

yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a

iii

nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;

b

yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—

i

yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a

ii

partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a

iii

yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,

a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, yn achos priodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes neb sydd â hawl i gael ac yn cael lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas amlbriod.

3

Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2), rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2)(b)(ii) fel pe na bai’r person hwnnw’n bartner i’r ceisydd.

4

At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—

a

person sy’n cael lwfans gweini, neu lwfans byw i’r anabl yn rhinwedd yr elfen ofal ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu

b

person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2).

5

At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—

a

fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy ar y naill gyfradd neu’r llall o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA, os byddai’r person hwnnw’n yn cael lwfans neu daliad felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;

b

fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.

6

At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf.

7

Yn is-baragraff (2)(a)(iii) a (b), mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001257 (darpariaethau colli budd-dal).