Search Legislation

Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2013

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli yn gyffredinol

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “blas” (“flavour”), ac eithrio ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a Rhan 2 o Atodlen 7, yw blas at adfer—

(a)

a geir wrth i ffrwythau gael eu prosesu drwy ddefnyddio prosesau ffisegol addas (gan gynnwys gwasgu, tynnu, distyllu, hidlo, arsugno, anweddu, ffracsiynu a dwysáu) er mwyn cael, diogelu, preserfio neu sefydlogi ansawdd y blas, a

(b)

sy’n olew sy’n cael ei wasgu yn oer o groen sitrws neu sy’n gyfansoddion o gerrig ffrwythau neu a geir o rannau bwytadwy’r ffrwyth;

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/112/EC” (“Directive2001/112/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC sy’n ymwneud â suddoedd ffrwythau a chynhyrchion penodol tebyg a fwriedir i bobl eu hyfed (1);

ystyr “cynhwysyn ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional ingredient”) yw cynhwysyn ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 8;

ystyr “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yw unrhyw rai o’r canlynol—

(a)

sudd ffrwythau;

(b)

sudd ffrwythau o ddwysfwyd;

(c)

sudd ffrwythau wedi ei ddwysáu;

(d)

sudd ffrwythau y tynnwyd dŵr ohono;

(e)

sudd ffrwythau dadhydredig;

(f)

sudd ffrwythau powdr; a

(g)

neithdar ffrwythau;

ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “ffrwyth” neu “ffrwythau” (“fruit”) yw unrhyw fath o ffrwyth (gan gynnwys tomatos) sy’n iach, yn briodol o aeddfed, ac yn ffres neu wedi ei breserfio drwy gyfrwng—

(a)

dull ffisegol, neu

(b)

triniaeth, gan gynnwys triniaeth ar ôl eu cynaeafu;

mae i “mêl” yr ystyr a roddir i “honey” ym mhwynt 1 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC sy’n ymwneud â mêl (2);

mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC ac mae ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny

ystyr “mwydion neu gelloedd” (“pulp or cells”) yw—

(a)

o ran ffrwythau sitrws, y codenni sudd a geir o’r endocarp, neu

(b)

o ran unrhyw ffrwythau eraill, y cynhyrchion a geir o’r rhannau bwytadwy o’r ffrwyth heb dynnu’r sudd;

ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw’r cynnyrch eplesadwy ond heb ei eplesu a geir drwy brosesau ffisegol addas megis hidlo, malu neu felino’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan neu’r ffrwyth wedi ei bilio heb dynnu’r sudd;

ystyr “piwrî ffrwythau wedi ei ddwysáu” (“concentrated fruit purée”) yw’r cynnyrch a geir o biwrî ffrwythau drwy dynnu cyfran benodol o’r dŵr sydd ynddo, ac, os oes blas wedi ei adfer iddo, y mae’r blas hwnnw wedi ei adennill o’r un rhywogaeth o ffrwyth;

ystyr “Rheoliad 1935/2004” (“Rheoliad1935/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy’n dirymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC(3);

ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd(4);

ystyr “siwgrau” (“sugars”) yw unrhyw rai o’r canlynol—

(a)

siwgrau fel y’u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC sy’n ymwneud â siwgrau penodol a fwriedir i bobl eu bwyta(5);

(b)

surop ffrwctos;

(c)

siwgrau sy’n deillio o ffrwythau;

ystyr “sylwedd ychwanegol awdurdodedig” (“authorised additional substance”) yw sylwedd ychwanegol a restrwyd yn Atodlen 9; ac

ystyr “triniaeth awdurdodedig” (“authorisedtreatment”) yw triniaeth a restrwyd yn Atodlen 10.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall sydd heb ei ddiffinio yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 2001/112/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Gyfarwyddeb honno.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau’r UE a restrwyd yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o dro i dro.

(1)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t.58, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2012/12/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 115, 27.4.2012, t.1).

(2)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t.47, fel y’i darllenir gyda’r cywiriad a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 52, 21.2.2007, t.16.

(3)

OJ Rhif L 338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t.14).

(4)

OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 913/2013 (OJ Rhif L 252, 24.9.2013, t.11).

(5)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t.53, y ceir cywiriadau iddo nad ydynt yn berthnasol i fersiwn Saesneg y Gyfarwyddeb.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources