xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
7.—(1) Yn y Rhan hon—
ystyr “daliad perthnasol” (“relevant holding”) yw tir ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’r meddiannydd ac sy’n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol, ac sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn ardal—
y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn argymell; a
y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar dderbyn yr argymhelliad hwnnw (gyda diwygiadau neu hebddynt) mewn perthynas â’r ardal honno,
y dylid ei dynodi, neu barhau ei dynodiad, yn barth perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn;
ystyr “y person penodedig” (“the appointed person”) yw person a benodwyd gan Weinidogion Cymru.
(2) Mae’r ardaloedd a nodir yn barthau perygl nitradau ar y map o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013” (“Nitrate Vulnerable Zones Index Map 2013”) ac a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ wedi eu dynodi yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Parthau perygl nitradau yw darnau o dir sy’n draenio i ddyfroedd llygredig ac yn cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny.
(4) I gynorthwyo Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’u dyletswydd i adolygu o dan reoliad 11(3), rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym a phob pedair blynedd fan hwyraf wedi hynny, wneud argymhellion i Weinidogion Cymru, gan gyfeirio at y materion a grybwyllir yn rheoliad 11(3)(a) i (c), ynglŷn â pha ardaloedd y dylid eu dynodi, neu y dylid parhau eu dynodiad, yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(5) Mae unrhyw argymhellion ynglŷn â’r materion a nodir yn rheoliad 7(4) ac a wnaed gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud ar y dyddiad hwnnw.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r argymhellion hynny a wnaed gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y maent â’u bryd ar eu derbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt) ac anfon hysbysiad o’r argymhellion i unrhyw berchennog neu feddiannydd daliad perthnasol.
(7) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfeiriad at dudalen ar wefan a gynhelir gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru, lle y mae modd dod o hyd i’r argymhelliad perthnasol (gydag unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei wneud iddo).
8.—(1) Caiff perchennog neu feddiannydd daliad perthnasol yr anfonwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(6) apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(2) Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a nodir ym mharagraff (3) y ceir apelio.
(3) Y seiliau yw na ddylai Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â’r daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono, dderbyn argymhellion Corff Adnoddau Naturiol Cymru (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei wneud iddynt) oherwydd—
(a)nad yw’r daliad perthnasol nac unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei nodi’n llygredig neu’n parhau i’w nodi felly; neu
(b)bod y daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru ei nodi’n llygredig, neu na ddylent barhau i’w nodi felly.
(4) Rhaid seilio’r apêl ar naill ai—
(a)data a ddarperir gan yr apelydd; neu
(b)tystiolaeth a ddarperir gan yr apelydd bod y data y mae Gweinidogion Cymru’n dibynnu arnynt yn anghywir.
(5) Rhaid i’r apêl—
(a)cael ei gwneud yn ysgrifenedig yn y dull a’r ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(b)cynnwys manylion yr holl dystiolaeth y mae’r apelydd yn bwriadu dibynnu arni; ac
(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 35 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru yr hysbysiad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r apêl ymlaen at y person penodedig i’w hystyried a’i phenderfynu ganddo.
9.—(1) Os bodlonir y person penodedig fod apêl a gyflwynwyd yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 8 ym mhob manylyn o bwys, rhaid i’r person penodedig fynd ymlaen i benderfynu’r apêl.
(2) Y person penodedig sydd i bennu’r weithdrefn ar gyfer penderfynu’r apêl.
(3) Ond mae hynny’n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(4) Cyn penderfynu’r apêl rhaid i’r person penodedig, gan ganiatáu pa bynnag gyfnod o amser sy’n rhesymol—
(a)gwahodd yr apelydd a Gweinidogion Cymru i gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;
(b)anfon copi at Weinidogion Cymru o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd;
(c)anfon copi at yr apelydd o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru;
(d)rhoi cyfle i’r apelydd ac i Weinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau i’r person penodedig, ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a’r llall.
(5) Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu gan Weinidogion Cymru.
(6) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson y mae’n ymddangos bod ganddo fuddiant sylweddol yn yr apêl i gyflwyno sylwadau, ond rhaid iddo roi cyfle i’r apelydd ac i Weinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau ar unrhyw sylwadau a wnaed.
(7) Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, sylwadaethau neu ddogfennau a gyflwynir mewn unrhyw fodd ac eithrio’n unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(8) Caiff y person penodedig, os bodlonir ef fod amgylchiadau eithriadol yn bodoli, gynnull gwrandawiad llafar.
(9) Bydd gan yr apelydd a Gweinidogion Cymru hawl i ymddangos mewn unrhyw wrandawiad llafar, a chaiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw barti arall ymddangos yno.
(10) Pan fo apêl wedi ei phenderfynu, rhaid i’r person penodedig anfon copi o’r penderfyniad at yr holl bartïon i’r apêl.
(11) Rhaid i bob un sy’n barti i apêl dalu ei gostau ei hunan.
(12) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn ei phenderfynu gan y person penodedig.
(13) Mae tynnu apêl yn ôl yn effeithiol wrth i’r apelydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person penodedig.
(14) Os tynnir apêl yn ôl bydd y person penodedig yn peidio â bod o dan ddyletswydd i’w hystyried a’i phenderfynu.
10.—(1) Mae penderfyniad y person penodedig mewn apêl yn rhwymo Gweinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, ar wefan a gynhelir ganddynt hwy, bob penderfyniad apêl gan y person penodedig.
11.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gadw dan adolygiad yn gyson gyflwr ewtroffig dyfroedd wyneb croyw, dyfroedd aberol a dyfroedd arfordirol.
(2) Cyn 1 Ionawr 2017, ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny, rhaid i Weinidogion Cymru fonitro’r crynodiad nitradau mewn dyfroedd croyw dros gyfnod o un flwyddyn—
(a)mewn safleoedd samplu sy’n gynrychiadol o ddŵr wyneb, o leiaf bob mis ac yn amlach yn ystod cyfnodau llifogydd, a
(b)mewn safleoedd samplu sy’n gynrychiadol o ddŵr daear, ar adegau rheolaidd a chan gymryd i ystyriaeth ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl(1),
ac eithrio yn achos y safleoedd samplu hynny lle’r mae’r crynodiad nitradau ym mhob sampl blaenorol a gymerwyd at y diben hwn wedi bod islaw 25 mg/l ac nad oes unrhyw ffactor newydd wedi ymddangos sy’n debygol o gynyddu’r cynnwys nitradau, ac mewn achos o’r fath, bob wyth mlynedd yn unig y bydd angen ail gynnal y rhaglen fonitro.
(3) Ar ddiwedd pob cyfnod o bedair neu wyth mlynedd fan hwyraf, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)nodi’r dŵr y mae llygredd yn effeithio arno neu ddŵr y gallai llygredd effeithio arno pe na chymhwysid y rheolaethau sydd yn y Rheoliadau hyn yn yr ardal honno, gan ddefnyddio’r meini prawf yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol(2);
(b)nodi tir sy’n draenio i’r dyfroedd hynny, neu i ddŵr a nodwyd yn yr un modd yn Lloegr, ac sy’n cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny;
(c)cymryd i ystyriaeth newidiadau a ffactorau nas rhagwelwyd pan wnaed y dynodiad blaenorol; a
(d)os oes angen, diwygio’r parthau perygl nitradau a ddynodir neu ychwanegu atynt.
OJ Rhif L330, 5.12.1998, t.32.
OJ Rhif L375, 31.12.1991, t.1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) 1137/2008 (OJ Rhif L311, 21.11.2008, t.1).