http://www.legislation.gov.uk/wsi/2013/216/signature/made/welsh
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2013
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-11-28
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 32(9) (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau yng Nghymru), adran 33(4) (cyfrifo swm sylfaenol treth gan awdurdodau yng Nghymru), adran 43(7) (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau yng Nghymru) ac adran 44(4) (cyfrifo swm sylfaenol treth gan awdurdodau yng Nghymru) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”). Mae'r adrannau hyn yn nodi sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio yng Nghymru i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol a sut mae awdurdod bilio a phrif awdurdod praeseptio yng Nghymru i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor.
Carl SargeantY Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru