Symud clerc i gorff llywodraethu o’i swydd
5.—(1) Os nad yw clerc i gorff llywodraethu yn cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol yn unol â’r Rheoliadau hyn, yna rhaid i’r corff llywodraethu symud y clerc o’i swydd.
(2) Ni chaiff person sydd wedi ei symud o’i swydd yn unol â pharagraff (1) gael ei benodi yn glerc i gorff llywodraethu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol.