Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Clerc i Gorff Llywodraethu) (Cymru) 2013

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr hyfforddiant” (“the training”) yw’r hyfforddiant a nodwyd yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant ar gyfer clercod cyrff llywodraethu yng Nghymru”(1) sy’n nodi at ddiben adran 24 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 yr hyfforddiant a’r safonau rhagnodedig;

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(2);

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010(3);

ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012 (4); ac

ystyr “swyddog cymorth i lywodraethwyr” (“governor support officer”) yw person a gyflogir gan awdurdod lleol yn unswydd neu yn bennaf at y diben o ddarparu cymorth a chyngor i’r awdurdod lleol, i benaethiaid ac i lywodraethwyr.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

(3At ddiben y Rheoliadau hyn mae’r cwestiwn a yw clerc wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol ai peidio i’w benderfynu gan y person a ddarparodd yr hyfforddiant i’r clerc hwnnw.

(4At ddibenion Rheoliadau 2012, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i’w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”.