xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr hyfforddiant” (“the training”) yw’r hyfforddiant a nodwyd yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Medi 2013 o’r enw “Cynnwys hyfforddiant ar gyfer clercod cyrff llywodraethu yng Nghymru”(1) sy’n nodi at ddiben adran 24 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 yr hyfforddiant a’r safonau rhagnodedig;
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(2);
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010(3);
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012 (4); ac
ystyr “swyddog cymorth i lywodraethwyr” (“governor support officer”) yw person a gyflogir gan awdurdod lleol yn unswydd neu yn bennaf at y diben o ddarparu cymorth a chyngor i’r awdurdod lleol, i benaethiaid ac i lywodraethwyr.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
(3) At ddiben y Rheoliadau hyn mae’r cwestiwn a yw clerc wedi cwblhau’r hyfforddiant yn foddhaol ai peidio i’w benderfynu gan y person a ddarparodd yr hyfforddiant i’r clerc hwnnw.
(4) At ddibenion Rheoliadau 2012, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i’w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”.
ISBN Rhif 978-0-7504-9645-2.
O.S. 2005/2914 (Cy.211), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/3200 (Cy.236), O.S. 2006/873 (Cy.81), O.S. 2007/944 (Cy.80), O.S. 2009/2544 (Cy.206), O.S. 2010/638 (Cy.64), O.S. 2010/1142 (Cy.101), O.S. 2010/2582 (Cy.216) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2012/1643 (Cy.212).