NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r gorfforaeth addysg uwch a sefydlwyd i redeg Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Sefydlwyd Prifysgol Fetropolitan Abertawe fel corfforaeth addysg uwch o’r enw Athrofa Addysg Uwch Abertawe o dan adran 122 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 a newidiodd ei henw i Brifysgol Fetropolitan Abertawe gyda chydsyniad y Cyfrin Gyngor.

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu i’r holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe hawlogaeth iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn ei diddymu, gael eu trosglwyddo i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaeth i adran 127 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 fod yn gymwys mewn perthynas â phersonau a gyflogwyd gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn union cyn 1 Awst 2013. Mae adran 127 o Ddeddf 1988, fel y’i cymhwysir gan y Gorchymyn hwn, yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo’r cyflogeion hynny i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar 1 Awst 2013 ac mewn cysylltiad â hawliau a dyletswyddau cysylltiedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r cyflogeion a drosglwyddir.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gorfforaeth a sefydlwyd o dan Siarter Frenhinol.