xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1729 (Cy. 170)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Diddymu) 2013

Gwnaed

9 Gorffennaf 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Gorffennaf 2013

Yn dod i rym

1 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 128 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1) ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (“the University of Wales Trinity Saint David”)(3), sef corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy’n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol o fewn ystyr adran 128(1)(b)(ii) o’r Ddeddf honno, wedi cydsynio i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (“Swansea Metropolitan University Higher Education Corporation”)(4) gael eu trosglwyddo iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn unol ag adran 128(4) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe (Diddymu) 2013 a daw i rym ar 1 Awst 2013.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Corfforaeth Fetropolitan Abertawe” (“the Swansea Metropolitan Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

Diddymu Prifysgol Fetropolitan Abertawe

3.  Ar 1 Awst 2013 mae Corfforaeth Fetropolitan Abertawe wedi ei diddymu ac mae ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

4.  Mae adran 127 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn gymwys i unrhyw berson a gyflogwyd gan Gorfforaeth Fetropolitan Abertawe yn union cyn 1 Awst 2013 fel petai’r cyfeiriadau yn yr adran honno—

(a)at berson y mae’r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogwyd felly;

(b)at y dyddiad trosglwyddo yn gyfeiriadau at 1 Awst 2013;

(c)at yr awdurdod sy’n trosglwyddo yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Fetropolitan Abertawe;

(d)at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

9 Gorffennaf 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r gorfforaeth addysg uwch a sefydlwyd i redeg Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Sefydlwyd Prifysgol Fetropolitan Abertawe fel corfforaeth addysg uwch o’r enw Athrofa Addysg Uwch Abertawe o dan adran 122 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 a newidiodd ei henw i Brifysgol Fetropolitan Abertawe gyda chydsyniad y Cyfrin Gyngor.

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu i’r holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe hawlogaeth iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn ei diddymu, gael eu trosglwyddo i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaeth i adran 127 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 fod yn gymwys mewn perthynas â phersonau a gyflogwyd gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn union cyn 1 Awst 2013. Mae adran 127 o Ddeddf 1988, fel y’i cymhwysir gan y Gorchymyn hwn, yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo’r cyflogeion hynny i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar 1 Awst 2013 ac mewn cysylltiad â hawliau a dyletswyddau cysylltiedig Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r cyflogeion a drosglwyddir.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gorfforaeth a sefydlwyd o dan Siarter Frenhinol.

(1)

1988 p.40. Diwygiwyd adran 128 gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 34; Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 16; Deddf Addysg 2011 (p.21), adran 67 ac Atodlen 16, paragraff 8; Deddf Elusennau 2011 (p.25), Atodlen 7, paragraff 51; Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238) (Cy.243), Atodlen 1, paragraff 12 a Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/1080), paragraffau 15 ac 16.

(2)

Trosglwddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 128, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi mae’r swyddogaethau hynny yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gorfforaeth a sefydlwyd o dan Siarter Frenhiniol.

(4)

Sefydlwyd fel corfforaeth addysg uwch o dan adran 122(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn rhinwedd O.S. 1991/1976.