Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2013

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i’r ymadrodd “yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir oddi wrth Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2013/2014 o dan reoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(1);

ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2013/2014;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;

ystyr “Blwyddyn Academaidd 2013/2014” (“Academic Year 2013/2014”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2013 ond cyn 1 Medi 2014;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008(2);

ystyr “y Dyddiad Ad-dalu” (“the Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi cael ei dderbyn naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un

bynnag y bernir iddo gael ei dderbyn gyntaf (yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998(3));

mae i’r ymadrodd “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 9;

mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998 neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac

mae i’r ymadrodd “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6.

(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn talu benthyciadau at gostau byw mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2013/2014 yn unol â Rhan 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/3097) (Cy.313) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/765 (Cy.91).

(3)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad y bernir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei dderbyn yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470) fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2010/661, O.S. 2010/1010, O.S. 2011/784 ,O.S. 2012/836 ac O.S. 2013/607.