Y Cynllun Iechyd Dofednod: ffioedd6
Mae ffioedd wedi eu pennu fel a ganlyn yn Atodlen 2, am weithgareddau a gynhelir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod18 a sefydlwyd o dan Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II i’r Gyfarwyddeb honno ac a weithredwyd gan baragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201119—
a
yn Nhabl 1, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan geiswyr, am y gweithgareddau cymeradwyo a chofrestru a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw; a
b
yn Nhabl 2, mae’r ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy, am y gweithgareddau a bennir yng ngholofn 1 o’r Tabl hwnnw, wedi eu pennu yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw.