xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 990 (Cy.130)

Y GYMRAEG, CYMRU

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012

Gwnaed

29 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 150(2)(k) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1) a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 150(5) ac adran 154 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 1993” (“1993 Act”) yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993(2).

Trosglwyddo'r swyddogaethau yn adran 3 o Ddeddf 1993

3.  Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru (yn ychwanegol at eu trosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg gan adran 143(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011).

Darpariaethau Trosiannol

Datganiad o gyfrifon olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru lunio datganiad o gyfrifon mewn perthynas â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2011 hyd 31 Mawrth 2012.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r datganiad o gyfrifon at Archwilydd Cyffredinol Cymru heb fod yn hwyrach na 31 Awst 2012.

(3Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiad o gyfrifon a gosod copïau o'r datganiad a'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adroddiad blynyddol olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

5.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar y modd yr arferodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2011 hyd 31 Mawrth 2012.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwygiadau Canlyniadol

Deddf Llywodraeth Cymru 1998

6.  Yn Rhan I (Cyrff a allai golli neu ennill swyddogaethau) o Atodlen 4 (Cyrff cyhoeddus a allai gael eu diwygio gan y Cynulliad) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3), hepgorer paragraff 13.

Deddf Safonau Gofal 2000

7.  Ym mharagraff 23 o Atodlen 2A (Personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan adran 72B) i Ddeddf Safonau Gofal 2000(4), yn lle “The Welsh Language Board.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

8.  Yn Rhan VI (Cyrff a swyddi cyhoeddus eraill : cyffredinol) o Atodlen 1 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(5), hepgorer “The Welsh Language Board.” a mewnosoder yn y man priodol “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

9.  O dan y pennawd “Miscellaneous” yn Atodlen 3 (Awdurdodau rhestredig) i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005(6), yn lle “The Welsh Language Board.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.

Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006

10.  O dan y pennawd “Miscellaneous” yn Atodlen 2 (Personau sydd a'u swyddogaethau yn destun adolygiad o dan adran 3) i Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006(7), yn lle “The Welsh Language Board.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.

Deddf Cydraddoldeb 2010

11.  O dan y pennawd “Other public authorities” yn Rhan 2 (Awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol) o Atodlen 19 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(8), yn lle “The Welsh Language Board or Bwrdd yr Iaith Gymraeg.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

12.  Yn adran 16 (Ystyr “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol”) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(9), yn lle paragraff (d) o is-adran (2) rhodder “(d) Comisiynydd y Gymraeg wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p. 38) (ymchwiliadau);”.

Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007

13.  Yn rheoliad 7 (Ymgynghoriad) o Reoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007(10) yn lle is-baragraff (f) o baragraff (2) rhodder “(f) Comisiynydd y Gymraeg;”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn creu swydd Comisiynydd y Gymraeg ac yn diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r Mesur hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â throsglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Comisiynydd.

Mae adran 154 (Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc) o'r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru y pwêr, drwy orchymyn, i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ganlyniadol a pha bynnag ddarpariaeth arall sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur neu i roi llwyr effaith iddo.

Mae is-adran (3) o adran 143 (Diddymu'r Bwrdd a throsglwyddo swyddogaethau) o'r Mesur yn rhag-weld y caiff Gweinidogion Cymru, mewn gorchymyn a wneir o dan adran 154 o'r Mesur, wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo'r swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 i Weinidogion Cymru, naill ai yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at hynny. Prif swyddogaeth y Bwrdd o dan adran 3 yw'r swyddogaeth o hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 154 o'r Mesur. Mae'n gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd, yn gwneud darpariaethau trosiannol ynglŷn â datganiad o gyfrifon ac adroddiad blynyddol olaf y Bwrdd ac yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth arall o ganlyniad i ddarpariaethau'r Mesur.

Mae erthygl 3 yn darparu bod y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993, i'w trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn ychwanegol at eu trosglwyddo i'r Comisiynydd. Golyga hyn y bydd y Comisiynydd a Gweinidogion Cymru yn arfer y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993. Mae paragraff 3 o Atodlen 12 i'r Mesur yn darparu, os trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd o dan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru, na fydd y darpariaethau canlynol o Ddeddf 1993 yn gymwys i'r swyddogaethau fel y byddant yn arferadwy gan Weinidogion Cymru, sef adran 3(2)(a) (darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg), adran 3(3) a (4) (pwerau i roi grantiau neu fenthyciadau ayyb ynghyd â chyfyngiadau ar y pwerau hynny) ac adran 4(1) (dyletswydd i gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru).

Mae erthyglau 4 a 5 yn darparu ynglŷn â llunio ac archwilio datganiad o gyfrifon y Bwrdd mewn perthynas â blwyddyn ariannol olaf y Bwrdd (sef o 1 Ebrill 2011 hyd at 31 Mawrth 2012) ac ynglŷn â llunio adroddiad blynyddol y Bwrdd ynghylch y modd yr arferodd ei swyddogaethau yn ystod yr un cyfnod.

Mae erthyglau 6 i 13 yn diwygio eitemau penodol o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, naill ai er mwyn hepgor cyfeiriadau at y Bwrdd neu'u disodli gan gyfeiriadau at y Comisiynydd fel y bo'n briodol ym mhob achos unigol.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn wedi ei baratoi a gellir cael copi ohono gan Uned yr Iaith Gymraeg, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

2000 p.14. Mewnosodwyd y cyfeiriad at Fwrdd yr Iaith Gymraeg gan adran 3(2) o Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (p. 18) a'r Atodlen iddi.

(8)

2010 p. 15. Mewnosodwyd y cyfeiriad at 'Welsh Language Board or Bwrdd yr Iaith Gymraeg' gan O.S. 2011/1063 (Cy.154), erthygl 2 is-baragraff (ch).