xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gorchymyn a wnaed gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru, ac a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif (Cy. )

ANIFEILIAID, CYMRU

ANIFEILIAID DINISTRIOL

Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012

Gwnaed

8 Mai 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mai 2012

Yn dod i rym

1 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu bodloni oherwydd arferion dinistriol y rhywogaeth famalaidd anfrodorol sy'n destun y Gorchymyn hwn ei bod yn ddymunol gwahardd neu reoli eu cadw ac i ddifa unrhyw rai a all fod yn rhydd, ac wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2012.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932; a

(b)ystyr “minc” (“mink”) yw'r anifail o'r rhywogaeth mustela vison.

Gwahardd cadw mincod

3.—(1Mae cadw mincod wedi ei wahardd.

(2Wrth gymhwyso'r Ddeddf mewn perthynas â mincod, mae'r canlynol i'w hepgor—

(a)adran 5(2), a

(b)adran 6(1), paragraff (f) a'r cyfeiriad at gosb mewn achos o drosedd o dan baragraff (f).

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

8 Mai 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 10 o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932 (“y Ddeddf”), yn gwahardd cadw mincod yng Nghymru.

Mae adran 10 o'r Ddeddf yn darparu, mewn perthynas â Gorchymyn a wneir yn unol â'r adran honno, fod darpariaethau'r Ddeddf yn gymwys fel y maent yn gymwys i fwsglygod, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r addasiadau hynny a bennir yn y Gorchymyn. Yn y Gorchymyn hwn, gwneir eithriadau mewn perthynas ag adrannau 5(2) a 6(1)(f) o'r Ddeddf. Mae adran 5(2) o'r Ddeddf yn ymwneud â'r ddyletswydd sydd ar feddianwyr tir i roi hysbysiad am bresenoldeb mincod, nad ydynt yn cael eu cadw o dan drwydded, ar eu tir. Mae adran 6(1)(f) o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer trosedd pan fo meddiannydd tir yn methu â rhoi hysbysiad o'r fath o dan adran 5(2).

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes na'r sector gwirfoddol.

(1)

1932 p. 12; diwygiwyd adran 11 (dehongli) gan O.S. 1992/3302.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan adran 10 o'r Ddeddf i'r Gweinidog hwnnw ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y cyd yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) 1969 (O.S.1969/388). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac fe'u breiniwyd yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p. 32). Mae Gorchymyn 1999 yn darparu ar gyfer eithriad i'r trosglwyddiad swyddogaethau o dan adran 10 o'r Ddeddf pan fo arfer y swyddogaethau yn ymwneud â mewnforio anifeiliaid y mae'r Ddeddf honno'n ymwneud â hwy ond nid yw'r eithriad hwnnw yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.