Gorchymyn a wnaed gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru, ac a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy. )

ANIFEILIAID, CYMRU
ANIFEILIAID DINISTRIOL

Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, a hwythau wedi eu bodloni oherwydd arferion dinistriol y rhywogaeth famalaidd anfrodorol sy'n destun y Gorchymyn hwn ei bod yn ddymunol gwahardd neu reoli eu cadw ac i ddifa unrhyw rai a all fod yn rhydd, ac wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 10(1) o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 19321 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: