xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 972 (Cy.127)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU

PENSIYNAU, CYMRU

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2012

Gwnaed

28 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1).

Fel sy'n ofynnol gan adran 34(5) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r cyfryw bersonau a ystyrient yn briodol, cyn gwneud y Gorchymyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2012.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2012.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2.  Diwygir Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(2) (y pennir Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ynddi) yn unol ag erthyglau 3 a 4 o'r Gorchymyn hwn.

3.  Ym Mhennod 1 o Ran 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol), yn rheol 3(1) (cyfraniadau pensiwn), yn lle “yn ôl cyfradd o 8.5 y cant o'i dâl pensiynadwy am y tro” rhodder “yn ôl y gyfradd o dâl pensiynadwy yr aelod-ddiffoddwr tân am y tro, a bennir yn y Tabl yn Atodiad A1”.

4.  Ar ôl Rhan 15 mewnosoder—

ATODIAD A1CYFRANIADAU PENSIWN

1.  Cyfradd y cyfraniad pensiwn a grybwyllir yn rheol 3(1) o Ran 11 yw'r gyfradd a bennir yn y Tabl isod drwy gyfeirio at swm tâl pensiynadwy'r aelod-ddiffoddwr tân yng ngholofn gyntaf y Tabl.

2.  Swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, at ddibenion colofn gyntaf y Tabl, yw tâl cyfeirio'r diffoddwr tân hwnnw.

3.  Swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd rhan-amser, at ddibenion colofn gyntaf y Tabl, yw swm tâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-llawn sydd â rôl a chyfnod gwasanaeth cyfatebol.

4.  Os digwyddodd newid perthnasol parhaol yn nhelerau ac amodau cyflogaeth aelod-ddiffoddwr tân, a'r newid yn effeithio ar swm tâl pensiynadwy'r aelod hwnnw, yna, o ddyddiad y newid hwnnw, rhaid cyfrifo'r tâl pensiynadwy drwy gyfeirio at y swm diwygiedig.

5.  Nid yw'r tâl pensiynadwy yng ngholofn gyntaf y Tabl isod yn cynnwys taliadau a wneir i ddiffoddwr tân rheolaidd gan yr awdurdod tân ac achub mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus y diffoddwr tân, ond caiff y taliadau hynny eu cynnwys yn nhâl pensiynadwy'r diffoddwr tân at ddibenion cymhwyso'r gyfradd a bennir yn yr ail golofn.

Y tâl pensiynadwyY gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2012 ymlaen
Hyd at a chan gynnwys £15,0008.5% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £30,0008.8% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,0008.9% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,0009.0% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,0009.1% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,0009.3% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,0009.5% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £120,0009.7% o'r tâl pensiynadwy

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072 (Cy. 110)), gydag effaith o 1 Ebrill 2012.

Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfradd wahanol o gyfraniadau pensiwn, sy'n daladwy gan aelodau-ddiffoddwr tân o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ac sy'n cynyddu yn unol â swm y tâl pensiynadwy a gaiff yr aelod-ddiffoddwr tân.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a'r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8254.

(1)

2004 p.21. Mae'r pwerau o dan adrannau 34 a 60 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Yn flaenorol roedd y pwerau wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gan adran 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2008 (p.32), trosglwyddwyd y pwerau i Weinidogion Cymru.