xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU A LLOEGR
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
TAI, CYMRU
Gwnaed
14 Mawrth 2012
Yn dod i rym
1 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 240(3), (4) a (7) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2); ac
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lleoliaeth 2011.
2. Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru a Lloegr, yw 1 Ebrill 2012—
(a)adran 9(1) i'r graddau y mae'n mewnosod—
(i)adrannau 5A a 5B newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru,
(ii)adrannau 5C a 5D newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion, a
(iii)adrannau 5F i 5L newydd yn Neddf 2004;
(b)adran 9(2) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;
(c)adran 9(3), (6) a (7)(a) ac (c);
(d)adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(a) a (d) newydd yn Neddf 2004;
(e)adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(b) newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y mae'n ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion;
(f)adran 10(1) i (3) a (5) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;
(g)adran 10(4);
(h)i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, y cofnodion ar gyfer adrannau 5 ac 19 o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnodion hynny; ac
(i)y cofnod ar gyfer adran 62(3) o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnod hwnnw.
3. Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yw 1 Ebrill 2012—
(a)adran 46;
(b)yn ddarostyngedig i erthygl 4, adran 162(3) (b) ac (c); ac
(c)Rhannau 7 a 10 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhannau hynny.
4.—(1) Mae'r ddarpariaeth arbed ganlynol yn cael effaith.
(2) Mae'r diwygiadau a wneir gan adran 162(3)(b) ac (c) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth os bu farw'r tenant diogel, y cyfeirir ato yn adran 89(1) neu 90(1) (yn ôl fel y digwydd) o Ddeddf Tai 1985(3) (“y tenant blaenorol”), ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.
(3) Nid yw'r diwygiadau hynny yn gymwys os bu farw'r tenant blaenorol cyn y dyddiad hwnnw.
(4) Mae i'r geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn yr erthygl hon, yr un ystyr a roddir i eiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 4 o Ddeddf Tai 1985 ac yn Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.
14 Mawrth 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru a Lloegr, rannau o adrannau 9 a 10 sy'n ymwneud â phwerau awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru, adran 46 sy'n diddymu darpariaethau yn Neddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, ynghylch deisebau i awdurdodau lleol; adran 162(3)(b) ac (c), sy'n gwneud diwygiadau yn y seiliau ar gyfer adennill meddiant mewn perthynas â thenantiaethau diogel yn dilyn marwolaeth tenant blaenorol; a darpariaethau diddymu cysylltiedig yn adran 237 ac Atodlen 25.
Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth arbed.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym ar 31 Ionawr 2012 o ran Cymru, gan Orchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012 (2012/193) (Cy.31) (C.6);
(a)Adrannau 38 i 43; a
(b)Adran 69.
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
* Mae'r darpariaethau hyn yn gymwys i'r Alban yn ogystal (gweler adran 239 o'r Ddeddf) a dygwyd hwy i rym o ran yr Alban gan yr un Gorchymyn. | ||
Adran 1(1) i (6) | 18.2.2012 | 2012/411 (C. 11) |
Adrannau 2 i 7 | 18.2.2012 | 2012/411 (C. 11) |
Adran 8(2) | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 18.2.2012 | 2012/411 (C. 11) |
Adrannau 9 a 10 (yn rhannol) | 18.2.2012 | 2012/411 (C. 11) |
Adrannau 11 i 14 | 18.2.2012 | 2012/411 (C. 11) |
Adran 15 | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Adran 19 | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Adran 20 (yn rhannol) | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Pennod 4 o Ran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 21 (yn rhannol) ac Atodlen 2 (yn rhannol) | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Adran 21 ac Atodlen 2 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 22 (yn rhannol) ac Atodlen 3 (yn rhannol) | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Adran 22 (yn rhannol) ac Atodlen 3 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 24 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 26 (yn rhannol) ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 31.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 30 (yn rhannol) | 31.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 36 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 70 | 15.1.2012 | 2012/57 (C.2) |
Adrannau 72 i 79 ac Atodlenni 5 i 7 | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Adran 115 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adrannau 116 (yn rhannol) a 121 (yn rhannol) ac Atodlenni 10 i 12 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 124(2) (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 128(2) * ac Atodlen 13 (yn rhannol) * | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 129 (yn rhannol) * | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 138(5) (yn rhannol) * | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 142(3) (yn rhannol) * | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 145 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 146 (yn rhannol) a 147(2), (3), (4) a (5) (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 147(1) a (6) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 150(1), (2) a (4) i (8) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adrannau 151 a 152 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 153 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 154 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 158 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 165 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 176 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 178 (yn rhannol) ac Atodlen 16 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 186 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 187(1) a (2) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 187(3) a (4) (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 190 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 191(2) i (5) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adrannau 193 a 194 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 195 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 197 (3)(e), (f) a (5) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adrannau 223 a 224 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 230 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 4 o Atodlen 25 (yn rhannol) a Rhannau 9, 11 i 13 a 25 o Atodlen 25 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 5 o Atodlen 25 (yn rhannol) | 31.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 237 (yn rhannol) a Rhannau 2 a 3 (yn rhannol) o Atodlen 25 | 18.2.2012 | 2012/411 (C. 11) |
Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 68 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 69(8) | 3.12.2011 | 2011/2896 (C. 103) |
Adran 69 (yn rhannol) | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |
Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 9 o Atodlen 25 | 15.1.2012 | 2012/57 (C. 2) |