Search Legislation

Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 887 (Cy.118) (C.26)

GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU A LLOEGR

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2012

Gwnaed

14 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 240(3), (4) a (7) o Ddeddf Lleoliaeth 2011(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2); ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lleoliaeth 2011.

Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau ddod i rym o ran Cymru a Lloegr

2.  Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru a Lloegr, yw 1 Ebrill 2012—

(a)adran 9(1) i'r graddau y mae'n mewnosod—

(i)adrannau 5A a 5B newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru,

(ii)adrannau 5C a 5D newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y maent yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion, a

(iii)adrannau 5F i 5L newydd yn Neddf 2004;

(b)adran 9(2) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;

(c)adran 9(3), (6) a (7)(a) ac (c);

(d)adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(a) a (d) newydd yn Neddf 2004;

(e)adran 9(7)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 62(1A)(b) newydd yn Neddf 2004 i'r graddau y mae'n ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion;

(f)adran 10(1) i (3) a (5) i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru;

(g)adran 10(4);

(h)i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, y cofnodion ar gyfer adrannau 5 ac 19 o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnodion hynny; ac

(i)y cofnod ar gyfer adran 62(3) o Ddeddf 2004 yn Rhan 2 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cofnod hwnnw.

Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau ddod i rym o ran Cymru

3.  Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yw 1 Ebrill 2012—

(a)adran 46;

(b)yn ddarostyngedig i erthygl 4, adran 162(3) (b) ac (c); ac

(c)Rhannau 7 a 10 o Atodlen 25, ac adran 237 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhannau hynny.

Darpariaeth arbed

4.—(1Mae'r ddarpariaeth arbed ganlynol yn cael effaith.

(2Mae'r diwygiadau a wneir gan adran 162(3)(b) ac (c) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth os bu farw'r tenant diogel, y cyfeirir ato yn adran 89(1) neu 90(1) (yn ôl fel y digwydd) o Ddeddf Tai 1985(3) (“y tenant blaenorol”), ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.

(3Nid yw'r diwygiadau hynny yn gymwys os bu farw'r tenant blaenorol cyn y dyddiad hwnnw.

(4Mae i'r geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn yr erthygl hon, yr un ystyr a roddir i eiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rhan 4 o Ddeddf Tai 1985 ac yn Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru.

14 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru a Lloegr, rannau o adrannau 9 a 10 sy'n ymwneud â phwerau awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2012, o ran Cymru, adran 46 sy'n diddymu darpariaethau yn Neddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009, ynghylch deisebau i awdurdodau lleol; adran 162(3)(b) ac (c), sy'n gwneud diwygiadau yn y seiliau ar gyfer adennill meddiant mewn perthynas â thenantiaethau diogel yn dilyn marwolaeth tenant blaenorol; a darpariaethau diddymu cysylltiedig yn adran 237 ac Atodlen 25.

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth arbed.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym ar 31 Ionawr 2012 o ran Cymru, gan Orchymyn Deddf Lleoliaeth 2011 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2012 (2012/193) (Cy.31) (C.6);

(a)Adrannau 38 i 43; a

(b)Adran 69.

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad cychwynO.S. Rhif
*

Mae'r darpariaethau hyn yn gymwys i'r Alban yn ogystal (gweler adran 239 o'r Ddeddf) a dygwyd hwy i rym o ran yr Alban gan yr un Gorchymyn.

Adran 1(1) i (6)18.2.20122012/411 (C. 11)
Adrannau 2 i 718.2.20122012/411 (C. 11)
Adran 8(2)3.12.20112011/2896 (C. 103)
Adran 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)18.2.20122012/411 (C. 11)
Adrannau 9 a 10 (yn rhannol)18.2.20122012/411 (C. 11)
Adrannau 11 i 1418.2.20122012/411 (C. 11)
Adran 153.12.20112011/2896 (C. 103)
Adran 193.12.20112011/2896 (C. 103)
Adran 20 (yn rhannol)3.12.20112011/2896 (C. 103)
Pennod 4 o Ran 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 21 (yn rhannol) ac Atodlen 2 (yn rhannol)3.12.20112011/2896 (C. 103)
Adran 21 ac Atodlen 2 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 22 (yn rhannol) ac Atodlen 3 (yn rhannol)3.12.20112011/2896 (C. 103)
Adran 22 (yn rhannol) ac Atodlen 3 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 2415.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 26 (yn rhannol) ac Atodlen 4 (yn rhannol)31.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 30 (yn rhannol)31.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 36 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 7015.1.20122012/57 (C.2)
Adrannau 72 i 79 ac Atodlenni 5 i 73.12.20112011/2896 (C. 103)
Adran 11515.1.20122012/57 (C. 2)
Adrannau 116 (yn rhannol) a 121 (yn rhannol) ac Atodlenni 10 i 12 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 124(2) (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 128(2) * ac Atodlen 13 (yn rhannol) *15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 129 (yn rhannol) *15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 138(5) (yn rhannol) *15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 142(3) (yn rhannol) *15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 145 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 146 (yn rhannol) a 147(2), (3), (4) a (5) (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 147(1) a (6)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 150(1), (2) a (4) i (8)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adrannau 151 a 15215.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 153 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 154 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 158 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 165 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 17615.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 178 (yn rhannol) ac Atodlen 16 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 186 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 187(1) a (2)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 187(3) a (4) (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 19015.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 191(2) i (5)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adrannau 193 a 19415.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 195 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 197 (3)(e), (f) a (5)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adrannau 223 a 22415.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 23015.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 4 o Atodlen 25 (yn rhannol) a Rhannau 9, 11 i 13 a 25 o Atodlen 2515.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 5 o Atodlen 25 (yn rhannol)31.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 237 (yn rhannol) a Rhannau 2 a 3 (yn rhannol) o Atodlen 2518.2.20122012/411 (C. 11)

Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

DarpariaethDyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 6815.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 69(8)3.12.20112011/2896 (C. 103)
Adran 69 (yn rhannol)15.1.20122012/57 (C. 2)
Adran 237 (yn rhannol) a Rhan 9 o Atodlen 2515.1.20122012/57 (C. 2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources