xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 843 (Cy.116)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir (Cymru) 2012

Gwnaed

15 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Mawrth 2012

Yn dod i rym

6 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 20 o Ddeddf Digollediad Tir 1961(1) ac adrannau 59, 61(1) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2), sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir (Cymru) 2012 a daw i rym ar 6 Ebrill 2012.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(4) (dehongli'n gyffredinol); ac

ystyr “Gorchymyn 1974” (“1974 Order”) yw Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir 1974(5).

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf Digollediad Tir 1961(6).

(3Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson i wneud cais am dystysgrif o dan adran 17 i, neu erchi am wybodaeth o dan erthygl 5 oddi wrth, awdurdod cynllunio lleol, ac yn y paragraffau hynny ystyr “y derbynnydd” yw'r awdurdod cynllunio lleol hwnnw.

(4Ni chymerir bod y cais neu'r archiad wedi ei wneud oni bai bod y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfathrebiad electronig—

(a)yn gallu cael ei chyrchu gan y derbynnydd;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.

(5Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(6Os derbynnir cyfathrebiad electronig gan y derbynnydd y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, cymerir ei fod wedi ei dderbyn ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

(7Bydd gofyniad yn y Gorchymyn hwn fod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei gyflawni os bydd y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae'r ymadrodd “ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

Gwneud cais am dystysgrifau a'u dyroddi

3.—(1Rhaid i gais i awdurdod cynllunio lleol am dystysgrif o dan adran 17—

(a)bod yn ysgrifenedig;

(b)cynnwys plan neu fap sy'n ddigonol i nodi'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef; ac

(c)cydymffurfio â gofynion adran 17(3).

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 17(4), bydd y cyfnod amser y mae tystysgrif i'w dyroddi ynddo gan awdurdod cynllunio lleol yn ddau fis ar ôl i gais o'r fath gael ei dderbyn ganddo ef.

(3Os bydd awdurdod cynllunio lleol yn dyroddi tystysgrif nad yw ar gyfer y datblygiad a ddisgrifir yn y cais a wnaed iddo ef, neu yn groes i'r sylwadau ysgrifenedig a wnaed iddo gan barti sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r mater(7), rhaid iddo gynnwys yn y dystysgrif honno ddatganiad ysgrifenedig yn nodi ei resymau dros wneud hynny ac yn rhoi manylion am y modd y caniateir i apêl gael ei gwneud a'r cyfnod amser y caniateir iddi gael ei gwneud ynddo o dan adran 18.

Archiadau am wybodaeth ynglŷn â thystysgrifau, etc a'i darparu gan awdurdod cynllunio lleol

4.  Os gwneir archiad ysgrifenedig i awdurdod cynllunio lleol gan unrhyw berson y mae'n ymddangos iddo fod ganddo fuddiant yn y tir sy'n destun tystysgrif o dan adran 17 am—

(a)enw a chyfeiriad y sawl a wnaeth gais am y dystysgrif a dyddiad y cais, a

(b)copi o'r dystysgrif,

rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol roi'r wybodaeth honno a chopi o'r dystysgrif, os yw ar gael, i'r person hwnnw.

Cyfathrebiadau electronig

5.  Os gwneir cais am dystysgrif o dan adran 17 neu archiad am wybodaeth o dan erthygl 4 yn electronig, cymerir bod y person sy'n gwneud y cais neu'r archiad (yn ôl y digwydd) wedi cytuno—

(a)i'r awdurdod cynllunio lleol ddefnyddio cyfathrebiad o'r fath er mwyn ymateb i'r archiad hwnnw, gan gynnwys dyroddi tystysgrif (os yw'n gymwys);

(b)mai'r cyfeiriad at y dibenion hyn yw'r cyfeiriad sydd wedi ei ymgorffori yn yr archiad hwnnw, neu sydd wedi ei gysylltu'n rhesymegol ag ef; ac

(c)y bydd y cytundeb tybiedig o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes i'r person sy'n gwneud y cais neu'r archiad hysbysu yn ysgrifenedig—

(i)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw; neu

(ii)yn dirymu'r cytundeb tybiedig,

a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol ac yn dod yn weithredol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person, ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

Darpariaethau dirymu ac arbed a darpariaethau trosiannol

6.—(1Mae Gorchymyn 1974 wedi ei ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru ar yr amod y bydd unrhyw gais am dystysgrif, neu unrhyw archiad am wybodaeth ynglŷn â thystysgrif, o dan adran 17, na phenderfynwyd arno erbyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ac ymdrinnir ag ef o dan ac yn unol â darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

(2Os, pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, bydd apêl wedi ei gwneud o dan adran 18 ac erthygl 4 o Orchymyn 1974 ac na fydd y cyfnod ar gyfer darparu dogfennau o dan erthygl 4(3) o Orchymyn 1974 wedi dod i ben eto, bydd darpariaethau erthyglau 4(3) a 4(4) o Orchymyn 1974 yn parhau mewn grym o ran yr apêl honno.

John Griifths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

15 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir 1974 (“Gorchymyn 1974”).

Mae erthygl 3 yn rhagnodi'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am dystysgrifau a'u dyroddi o dan adran 17 o Ddeddf Digollediad Tir 1961.

Mae erthygl 4 yn rhagnodi'r weithdrefn i'r rheini sydd â buddiant yn y tir perthnasol gael gwybodaeth am dystysgrifau o'r fath.

Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer cyfathrebu electronig mewn perthynas â cheisiadau am dystysgrifau ac archiadau am wybodaeth.

Mae erthygl 6 yn dirymu Gorchymyn 1974 i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru ac yn darparu y bydd unrhyw gais am dystysgrif neu archiad am wybodaeth na phenderfynwyd arno, yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud neu wedi ei drin o dan y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 6 hefyd yn cynnwys arbediad os yw apêl wedi ei gwneud cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym ac os nad yw'r terfyn amser ar gyfer darparu gwybodaeth a gynhwysir yn erthygl 4(3) o Orchymyn 1974 wedi dod i ben eto. Yn yr achosion hyn, bydd erthyglau 4(3) a (4) o Orchymyn 1974 yn parhau i fod yn gymwys.

Nid oes Asesiad Effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn, gan y disgwylir i unrhyw effaith ar y sector preifat neu'r sector gwirfoddol fod yn ddibwys.

(1)

1961 p.33; caiff adran 20 ei diwygio gan Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20), adran 232(4), ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(4)

2000 p.7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406 o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.

(5)

O.S. 1974/539; diwygiwyd gan O.S.1986/435.

(6)

Caiff adrannau 17 a 18 eu hamnewid gan adran 232(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20) ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(7)

Gweler adran 22(1) o Ddeddf Digollediad Tir 1961 (p.33) am ystyr “the parties directly concerned”.