- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1) (dehongli'n gyffredinol); ac
ystyr “Gorchymyn 1974” (“1974 Order”) yw Gorchymyn Datblygu Digollediad Tir 1974(2).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Neddf Digollediad Tir 1961(3).
(3) Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson i wneud cais am dystysgrif o dan adran 17 i, neu erchi am wybodaeth o dan erthygl 5 oddi wrth, awdurdod cynllunio lleol, ac yn y paragraffau hynny ystyr “y derbynnydd” yw'r awdurdod cynllunio lleol hwnnw.
(4) Ni chymerir bod y cais neu'r archiad wedi ei wneud oni bai bod y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfathrebiad electronig—
(a)yn gallu cael ei chyrchu gan y derbynnydd;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Os derbynnir cyfathrebiad electronig gan y derbynnydd y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, cymerir ei fod wedi ei dderbyn ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.
(7) Bydd gofyniad yn y Gorchymyn hwn fod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei gyflawni os bydd y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae'r ymadrodd “ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.
2000 p.7; diwygiwyd adran 15(1) gan adran 406 o Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21) a pharagraff 158 o Atodlen 17 iddi.
O.S. 1974/539; diwygiwyd gan O.S.1986/435.
Caiff adrannau 17 a 18 eu hamnewid gan adran 232(3) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20) ar ddyddiad sydd i'w bennu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: