- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
9 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mawrth 2012
Yn dod i rym
9 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 9 Ebrill 2012.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2).
3.—(1) Diwygir Rheoliadau 2007 fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn yr addasiad o reoliad 45 (terfyn cyfalaf), yn lle “£22,500” rhodder “£23,250”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1104 (Cy.116)) (“Rheoliadau 2007”). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer talu treuliau teithio i bersonau, ymhlith eraill, sydd ar incwm isel, a pheidio â chodi ffioedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar y personau hynny, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan Reoliadau 2007 er mwyn canfod a oes hawlogaeth gan y person hwnnw i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad o dreuliau teithio GIG, cymhwysir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 45 o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, er mwyn codi'r terfyn cyfalaf rhagnodedig i £23,250 o 9 Ebrill 2012 ymlaen.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/1104 (Cy.116) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1480 (Cy.153). ac O.S. 2011/681 (Cy.100) Mae diwygiadau eraill, nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: