Cais am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth o ran tir y Goron
5. Mae darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn, yn eu cymhwysiad i wneud a phenderfynu ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig a chaniatâd ardal gadwraeth o ran tir y Goron, yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol—
(a)yn rheoliad 3(3)(b), yn lle “y dystysgrif sy'n ofynnol gan reoliad 7” rhodder “y dystysgrif neu ddogfen arall sy'n ofynnol gan reoliad 7”;
(b)yn rheoliad 7—
(i)ym mharagraff (1) ar ôl “oni bai bod” mewnosoder “y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraff (1A), neu”, a
(ii)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i gais am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth o ran tir y Goron, ddod gyda'r canlynol—
(a)datganiad bod y cais yn cael ei wneud o ran tir y Goron; a
(b)pan fo cais yn cael ei wneud gan berson sydd wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr awdurdod priodol, copi o'r awdurdodiad hwnnw.”
