Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

Ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig, i awdurdod cynllunio lleol, ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sy'n cael effaith sylweddol debyg);

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen; ac

(c)dod gyda'r canlynol, boed hynny yn electronig neu fel arall—

(i)y planiau, lluniadau a'r wybodaeth o'r math sy'n angenrheidiol i ddisgrifio'r gwaith sydd o dan sylw yn y cais;

(ii)ac eithrio pan fo'r cais yn cael ei wneud drwy gyfathrebiad electronig neu fod yr awdurdod cynllunio lleol yn mynegi bod llai yn ofynnol, 3 chopi o'r ffurflen; a

(iii)ac eithrio pan gyflwynir hwy drwy gyfathrebiad electronig neu fod yr awdurdod cynllunio lleol yn mynegi bod llai yn ofynnol, 3 chopi o unrhyw blaniau, lluniadau neu wybodaeth sy'n dod gyda'r cais y cyfeirir atynt ym mharagraff (i).

(2Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau sydd yn ofynnol i'w darparu gan baragraff (1)(c)(i) gael eu llunio i raddfa a ddynodir, ac yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.

(3Pan fo'r awdurdod cynllunio lleol y mae'n rhaid cyflwyno'r cais iddo yn cael—

(a)cais sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (1);

(b)y dystysgrif sy'n ofynnol gan reoliad 7;

(c)mewn achos lle y mae rheoliad 6 yn gymwys iddo, y datganiad cynllunio a mynediad;

rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth i'r ceisydd yn y termau a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 (neu mewn termau sylweddol debyg iddynt).

(4Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn barnu, wedi iddo anfon y gydnabyddiaeth fel sy'n ofynnol gan baragraff (3), fod y cais yn annilys, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r ceisydd bod y cais yn annilys.

(5Pan gafwyd cais dilys o dan baragraff (1) gan awdurdod cynllunio lleol, cyfnod o 8 wythnos yw'r amser a ganiateir i'r awdurdod roi hysbysiad o'i benderfyniad i'r ceisydd neu roi hysbysiad iddo o gyfeirio'r cais at Weinidogion Cymru, yn cychwyn ar y dyddiad y cyflwynwyd y cais a'r dystysgrif o dan reoliad 7 i'r awdurdod, neu, (ac eithrio pan fo'r ceisydd eisoes wedi rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru) gyfnod arall y cytunir arno, ar unrhyw adeg, yn ysgrifenedig rhwng y ceisydd a'r awdurdod.

(6Rhaid i bob hysbysiad o benderfyniad neu hysbysiad o gyfeirio at Weinidogion Cymru o'r fath gael ei wneud yn ysgrifenedig, a phan fo awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu rhoi caniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth yn ddarostyngedig i amodau, neu eu gwrthod, rhaid i'r hysbysiad ddatgan y rhesymau dros y penderfyniad a rhaid iddo ddod gyda hysbysiad yn y termau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 (neu mewn termau sylweddol debyg iddynt).

(7Caiff cais am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth neu gais am amrywio neu ollwng amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth a wnaed ar neu ar ôl 30 Ebrill 2012 a chyn 31 Mai 2012, gan unrhyw un heblaw awdurdod cynllunio lleol, gael ei wneud yn ysgrifenedig ar ffurflen a gynlluniwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol a rhaid iddi ddod gyda dau gopi pellach o'r ffurflen, planiau a lluniadau.