xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 746 (Cy.101)

Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Partneriaeth Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2012

Gwnaed

7 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mawrth 2012

Yn dod i rym

3 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 72(5)(e) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Yn unol ag adran 72(6) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Partneriaeth Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Partneriaeth Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2012.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2012.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Byrddau Iechyd Lleol” (“Local Health Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3); ac

ystyr “Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trusts”) yw'r Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4).

Pennu awdurdodau

3.  Mae Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi eu pennu'n awdurdodau lleol at ddibenion adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn awdurdodau lleol at ddibenion adran 72(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Effaith hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i benodi aelodau o Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn aelodau o Gyngor Partneriaeth Cymru, a sefydlwyd o dan adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn erthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n anghenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.

(2)

Mae cyfeiriadau at “Cyngor Partneriaeth Cymru” yn cyfeirio at y corff a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru ac sy'n cael ei gynnal ganddynt o dan adran 72(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(4)

Gweler Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009, O.S. 2009/2058 (Cy.177), Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993, O.S. 1993/2838, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/826, O.S. 2002/442 (Cy.57), O.S. 2002/2199 (Cy.219), O.S. 2009/2059 (Cy.178) a Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998, O.S. 1998/678, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/201 (Cy.26).